Seiclwr proffesiynol Seisnig ydy Syr Bradley Marc Wiggins, CBE (ganwyd 28 Ebrill 1980, Ghent, Gwlad Belg). Mae'n arbenigo mewn seiclo trac a ffordd. Enillodd dair medal ar y trac yn Gemau Olympaidd yr Haf Athen 2004. Yn Gorffennaf 2012 enillodd Wiggins y Tour de France, y seiclwr cyntaf Seisnig i ennill y Tour.

Bradley Wiggins
Bradley Wiggins (2015)
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnBradley M Wiggins
LlysenwWiggo
Dyddiad geni (1980-04-28) 28 Ebrill 1980 (43 oed)
Manylion timau
DisgyblaethTrac a Ffordd
RôlReidiwr
Math seiclwrTreial Amser / Pursuit / Dygnwch
Tîm(au) Proffesiynol
2002–2003
2004–2005
2006–2007
2008
La Francaise des Jeux
Crédit Agricole
Cofidis
Team High Road
Prif gampau
Pencampwr y Byd x6
Baner Prydain Fawr Pencampwr Prydain
Gemau Olympaidd
Gemau Olympaidd
Gemau Olympaidd x2
Gemau'r Gymanwlad x2
Golygwyd ddiwethaf ar
16 Medi 2007

Ganed Bradley yn fab i seiclwr proffesiynol Awstralaidd, Gary Wiggins, ond gwahanodd ei rieni ac aeth i fyw efo'i fam i Maida Vale, Llundain. Yn dilyn gyrfa ei dad, dechreuodd seiclo yn ifanc, gan rasio yn Velodrome Herne Hill, de Llundain yn 12 oed.[1]

Yng Ngemau Olympaidd Sydney yn 2000, enillodd Wiggins y fedal efydd yn y pursuit tîm. Yng Ngemau Olympaidd Athen 2004, enillodd y fedal aur yn y pursuit unigol, 4 km, arian yn y pursuit tîm ac efydd yn y Madison gyda Rob Hayles.

Yn 2001 arwyddodd Wiggins gytundeb gyda thîm proffesiynol ffordd Linda McCartney Racing Team cyn iddo ddod i ben yn gynnar yn 2001.[2] Yn 2002 a 2003, reidiodd dros dîm proffesiynol Ffrengig La Francaise des Jeux; yn 2004 a 2005, dros dîm proffesiynol Ffrengig Crédit Agricole, a reidiodd yn Giro d'Italia 2005. Symudodd i dîm Ffrengig Cofidis yn 2006, a chystadleuodd yn Tour de France 2006 a 2007.

Yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd a argraffwyd 31 Rhagfyr 2004, gwnaethwyd ef yn OBE i gydnabod ei wasanaeth i chwaraeon.

Dychwelodd Wiggins i reidio trac yng nghymal Manceinion Cwpan y Byd Trac, UCI a Phencampwriaethau'r Byd yn 2007, gan ennill y pursuit tîm a'r pursuit unigol. Dilynodd y buddugoliaethau yma gan ennill stage prologue y Critérium du Dauphiné Libéré.

Reidiodd Tour de France 2007 dros dîm Cofidis; ond tynnwyd hwy allan o'r gystadleuaeth wedi i aelod arall o'r tîm, Cristian Moreni, brofi'n bositif mewn prawf cyffuriau.[3]

Yn 2008, ail-adroddodd Wiggins ei gampau o Bencampwriaethau'r Byd 2007 gan gipio'r aur yn y Pursuit unigol, gan greu Record y Byd newydd yn y broses. Cipiodd yr aur yn y Madison yn ogystal.

Priododd Bradley, Catherine Cathy Cockram, ym Manceinion yn Nhachwedd 2004, ac mae ganddynt ddau o blant, Ben ac Isabelle.

Yn Rhagfyr 2012, enillodd Wiggins y Wobr "Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC".

Canlyniadau golygu

1998
1af   Pursuit 2 km, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI Iau
1999
1af   Madison (gyda Rob Hayles), Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
3ydd Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2000
2il Pursuit Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI (gyda Chris Newton, Paul Manning a Bryan Steel)
3ydd   Pursuit Tîm, Gemau Olympaidd (gyda Jon Clay, Rob Hayles, Paul Manning, Bryan Steel & Chris Newton)
3ydd Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2001
2il Pursuit Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
2002
2il   Pursuit 4 km, Gemau'r Gymanwlad
2il   Pursuit Tîm, Gemau'r Gymanwlad
3ydd Pursuit Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
2003
1af   Pursuit 4 km, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
2il Pursuit Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
1af Cymal 1 ITT, Tour de l'Avenir
Chwe Diwrnod Ghent
2004
1af   Pursuit 4 km, Gemau Olympaidd
2il   Pursuit Tîm, Gemau Olympaidd (gyda Steve Cummings, Paul Manning & Rob Hayles)
3ydd   Madison, Gemau Olympaidd (gyda Rob Hayles)
2005
1af Cymal 2 ITT, Circuit de Lorraine
1af Cymal 8, Tour de l'Avenir
2007
1af   Pursuit 4 km, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
1af   Pursuit Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI (gyda Ed Clancy, Geraint Thomas & Paul Manning)
1af Pursuit Tîm, Cymal Manceinion, Cwpan y Byd Trac, UCI 2006/2007, (gyda Ed Clancy, Rob Hayles & Paul Manning)
1af Prologue, Critérium du Dauphiné Libéré
1af Cymal 1 ITT, Pedward Diwrnod Dunkirk
1af Cymal 4 ITT, Tour du Poitou-Charentes et de la Vienne
Gwobr Combativity, Cymal 6, Tour de France
2008
1af   Madison, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
1af   Pursuit 4 km, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
1af   Pursuit Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI (gyda Ed Clancy, Geraint Thomas & Paul Manning)
2009
4ydd Tour de France

Dyfyniadau golygu

"Most people were too drunk to notice me" Sylwad ar ei brofiad o ymarfer ar gyfer cymal Llundain o'r Tour de France yn hwyr yn y nos.

"It is nice to be recognised for actually achieving something in life as opposed to spending seven weeks in a house on TV with a load of other muppets." Wrth gyfeirio at Big Brother, ar ôl gorffen yn bedwerydd yn Prologue Tour de France.[4]

Cyfeiriadau golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: