Roedd Brian Samuel Epstein (19 Medi 193427 Awst 1967) yn entrepreneur cerddorol o Loegr a oedd hefyd yn reolwr ar y grŵp pop Y Beatles. Roedd yn reolwr ar nifer o fandiau eraill hefyd gan gynnwys Gerry & The Pacemakers, Billy J. Kramer and the Dakotas, Cilla Black a The Remo Four.

Brian Epstein
GanwydBrian Epstein Edit this on Wikidata
19 Medi 1934 Edit this on Wikidata
Lerpwl Edit this on Wikidata
Bu farw27 Awst 1967 Edit this on Wikidata
o gorddos o gyffuriau Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Label recordioParlophone Records Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethperson busnes, impresario, asiant talent, rheolwr talent, cynhyrchydd, entrepreneur, cynhyrchydd recordiau Edit this on Wikidata
Arddullroc poblogaidd Edit this on Wikidata
Gwobr/auRock and Roll Hall of Fame Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.brianepstein.com/ Edit this on Wikidata

Recordiodd Y Beatles demo yn stiwdios Decca a Epstein dalodd am hyn. Yn ddiweddarach, perswadiodd George Martin i wrando ar y demo, am nad oedd gan Decca ddiddordeb mewn cynnig cytundeb i'r Beatles. Cynigiodd Martin gytundeb recordio i Epstein ar label fechan EMI, Parlophone er eu bod wedi cael eu gwrthod gan bron pob cwmni recordiau arall ym Mhrydain.

Bu farw Epstein o or-ddôs damweiniol o gyffuriau yn ei gartref yn Llundain ym mis Awst 1967. Priodolir llwyddiant cynnar Y Beatles i reolaeth Epstein a'i synnwyr o steil. Pan yn sôn am Epstein, dywedodd Paul McCartney: "If anyone was the Fifth Beatle, it was Brian."


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.