Britheg berlog fach

Britheg berlog fach
Statws cadwraeth
Heb ei werthuso (IUCN 3.1)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Nymphalidae
Genws: Boloria
Rhywogaeth: B. selene
Enw deuenwol
Boloria selene
(Denis & Schiffermüller, 1775)

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw britheg berlog fach, sy'n enw bendywaidd; yr enw lluosog ydy brithegion perlog bach; yr enw Saesneg yw Small Pearl-bordered Fritillary, a'r enw gwyddonol yw Boloria selene.[1][2] Mae'r glöyn hwn, sy'n hynod o debyg i'r fritheg berlog i'w ganfod ledled Ewrop ac Asia hyd at Corea; fe'i ceir hefyd yng Ngogledd America.

Yng ngwledydd Prydain mae i'w weld yn y gwledydd Celtaidd ac yn Ardal y Llynnoedd; mae'r niferoedd yn Lloegr, fodd bynnag, yn gostwng yn flynyddol.

Bwyd golygu

Ei hoff fwyd yw mathau gwahanol o fioled, yn enwedig pan fo'n tyfu mewn llefydd damp. Fe'i ceir hefyd ar redyn, pan fo'n tyfu gerllaw fioled.

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r fritheg berlog fach yn lindysyn sydd yn bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Galeri golygu

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.