Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw britheg frown, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy brithegion brown; yr enw Saesneg yw High Brown Fritillary, a'r enw gwyddonol yw Fabriciana adippe neu Argynnis adippe.[1][2] Mae i'w ganfod o Ewrop i dir mawr Asia ac i Japan.

Britheg frown
Delwedd:Fabriciana adippe MHNT CUT 2013 3 25 Sornac Dorsal.jpg, Fabriciana adippe MHNT CUT 2013 3 25 Sornac Ventral.jpg
Enghraifft o'r canlynoltacson Edit this on Wikidata
Safle tacsonrhywogaeth Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonFabriciana Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Britheg frown
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Nymphalidae
Genws: Fabriciana
Rhywogaeth: F. adippe
Enw deuenwol
Fabriciana adippe
(Denis & Schiffermüller, 1775)
Cyfystyron

Argynnis adippe

Hed yr oedolyn yng Ngorffennaf ac Awst. Mae'r fenyw'n dodwy eu hwyau ar fathau o fioled, a gaiff eu bwyta yn eu tro gan y siani flewog.

Neithdar o blanhigion mwyar duon ac ysgall yw prif fwyd yr oedolyn.

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd. Wedi deor o'i ŵy mae'r fritheg frown yn lindysyn sydd yn bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Oriel luniau golygu

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  Eginyn erthygl sydd uchod am löyn byw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.