British League of Racing Cyclists

Cymdeithas a ffurfiwyd i hybu rasio ffordd ym Mhrydain oedd y British League of Racing Cyclists (Byrenw: BLRC).

British League of Racing Cyclists
Enghraifft o'r canlynolsports organization Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1942 Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Clawr trwydded rasio/cerdyn aelodaeth y BLRC (© T. Haf)
Tu mewn trwydded Rasio 1956 W.L. Rixon
(© T. Haf)

Sefydlwyd yn 1942 mewn cystadleuaeth uniongyrchol gyda'r National Cyclists' Union (a oedd wedi gwahardd rasio oddiar ffyrdd cyhoeddus yn 1890).

Daeth yr ysgogiad i sefydlu'r BLRC pan drefnodd y seiclwr o Orllewin y Canolbarth, Percy Stallard, ras 59 milltir yn cychwyn mewn tyrfa o Llangollen i Wolverhampton ar ddydd Sul 2 Mehefin 1942. Cafodd Stallard a phawb a gymerodd ran eu gwahardd o'r NCU; eu hymateb oedd i seflydlu'r BLRC. Ffurfiwyd mewn cyfarfod o 24 o bobl yng Ngwesty Sherebrook Lodge, Buxton, Swydd Derby ar ddydd Sul 14 Tachwedd 1942). Yn 1943, hyrwyddodd y BLRC Bencampwriaeth Cenedlaethol Rasio Ffordd cyntaf Prydain, yn Harrogate ac yn ddiweddarach y ras sawl cam Brighton-Glasgow, rhagflaenydd i'r Daily Express Tour of Britain, a redwyd am y tro cyntaf yn 1951.

Trefnodd y BLRC dimau i'w cynrychioli ar y cyfandir; er enghraifft, o 1948 ymlaen anfonasant dîm i'r Peace Race (enillodd aelod o'u tîm, Ian Steel y ras ac enillasant gystadleuaeth y timau yn 1952). Cefnogodd y BLRC y tîm cenedlaethol cyntaf, gan gynnwys Brian Robinson ac fe'u hanfonwyd i gystadlu yn y Tour de France yn 1955; gan nad oedd y BLRC yn cael ei adnabod fel corff llywodraethu cenedlaethol gan yr UCI, nid oedd yr NCU yn dewis aelodau BLRC fel rhan o'r tîm cenedlaethol swyddogol. Dewiswyd aelodau tîm y BLRC gan newyddiadurwyr seiclo o'r papurau Prydeinig.

Mae'r testun a oedd yn nhu mewn trwyddedau rasio'r BLRC yn arwyddocad o'u safbwynt ar y pryd (Saesneg):

POLICE INTERFERENCE
  1. Make no statement to the Police about anything happening during a Race.
  2. If questioned, say 'I do not wish to make a Statement.'
  3. Any rider accused of any offence which he does not consider he has committed should add 'I deny that I ......... (whatever he is accused of).'
  4. DO NOT SAY ANYTHING ELSE
  5. GIve full details to the Organiser.

Ymunodd nifer fawr o seiclwyr gyda'r BLRC. Polareiddwyd rasio Prydeinig; nid oedd clybiau seiclo ymaelodi gyda'r NCU a'r BLRC, gwaharddwyd unrhyw seiclwyr a gystadlodd yn rasys y BLRC rhag gystadlu yn rasus yr NCU ac o rasys treial amser a redwyd gan y Road Time Trials Council. Ni chydnabyddwyd campau'r BLRC gan y rheiny a oedd yn gyfrifol am wobrwyo Gwobr Goffa Bidlake.

Gorffennodd y gystadleuaeth gyda'r NCU yn 1959, pan gyfunwyd y ddau gorff i greu'r British Cycling Federation, a gafodd ei adnabod yn swyddogol gan yr UCI.