Ymladdwyd Brwydr Cannae ar 2 Awst 216 CC gerllaw Cannae, yn Apulia yn ne-ddwyrain yr Eidal, rhwng byddin Garthaginaidd dan Hannibal a byddin Gweriniaeth Rhufain dan y ddau gonswl, Lucius Aemilius Paullus a Gaius Terentius Varro. Roedd yn un o frwydrau mwyaf yr Ail Ryfel Pwnig, ac yn un o fuddugoliaethau mwyaf Hannibal.

Brwydr Cannae
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad2 Awst 216 CC Edit this on Wikidata
Rhan oAil Ryfel Pwnig Edit this on Wikidata
LleoliadCannae Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
RhanbarthPuglia, Italia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ymosodiad y Rhufeiniaid (mewn coch).

Diweddodd y frwydr mewn buddugoliaeth fawr i Hannibal a'r Carthaginiaid. Lladdwyd tua 50,000 o Rufeiniaid; un o'r colledion mwyaf mewn un diwrnod o frwydro mewn hanes. Yn eu plith roedd y conswl Aemilius Paullus. Roedd colledion y Carthaginiaid yn llawer llai.

Ail ran y frwydr - y Carthaginiaid yn amgylchynu'r Rhufeiniaid ac yn eu gwasgu at ei gilydd