Brwydr Chaeronea (338 CC)

Ymladdwyd Brwydr Chaeronea a 2 Awst 338 CC, rhwng Philip II, brenin Macedon a'i gyngheiriaid a byddin dinas-wladwriaethau Athen a Thebai. Ymladdwyd y fwydr ger Chaeronea yn Boeotia. Cynorthwywyd y Macedoniaid gan rai cyngheiriaid Groegaidd, o Thessalia, Epirus, Aetolia ac eraill.

Brwydr Chaeronea
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad338 CC Edit this on Wikidata
Rhan oSacred Wars Edit this on Wikidata
LleoliadChaeronea Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethGwlad Groeg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Bu'n frwydr galed, ond yn y diwedd llwyddodd Alecsander, mab Philip a chadfridog yr adain chwith, i dorri trwy rengoedd Thebai. Wrth weld hyn, gorchymynodd Philip ymosodiad ffyrnig ar yr Atheniaid, a'u gyrrodd o'r maes. Amgylchynwyd y Thebiaid, a diddefasant golledion trwm. Lladdwyd bron y cyfan o Gorfflu Cysegredig Thebai, milwyr gorau Thebai, wedi iddynt wrthod ffoi.

Gadawodd y frwydr yma Philip yn feistr ar Wlad Groeg, ac yn fuan wedyn sefydlodd Gynghrair Corinth dan arweiniad Macedon. Tua 300 CC, cododd dinas Thebai gerflun enfawr o lew ar faes y frwydr i nodi'r man lle claddwyd gwŷr y Corfflu Cysegredig. Cloddiwyd y safle yn 1890, a chafwyd hyd i 254 ysgerbwd.