Brwydr Crécy, a ymladdwyd ar 26 Awst 1346 ger Crécy-en-Ponthieu, oedd brwydr fawr gyntaf y Rhyfel Can Mlynedd rhwng Lloegr a Ffrainc. Enillodd y Saeson, dan Edward III, brenin Lloegr, fuddugoliaeth fawr dros fyddin fwy o Ffrancwyr dan Ffylip VI, brenin Ffrainc. Y prif reswm am y fuddugoliaeth oedd effeithiolrwydd y bwa hir, ac mae rhai haneswyr yn gweld y frwydr fel dechrau diwedd sifalri.

Brwydr Crécy
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad26 Awst 1346 Edit this on Wikidata
Rhan oy Rhyfel Can Mlynedd Edit this on Wikidata
LleoliadCrécy-en-Ponthieu Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Brwydr Crécy; llun o Froissart

Roedd Edward III ar ymgyrch trwy ogledd Ffrainc, ac wedi ennill brwydrau llai ger Caen a Blanchetaque. Methodd ymgais gan y Ffrancwyr i ddal ei fyddin rhwng afon Seine ac afon Somme, a chafodd Edward y cyfle i ddewis safle amddiffynnol gref, ar dir uchel gyda'i ddwy ystlys yn cael eu diogelu. Paratowyd ffosydd a thyllau o flaen y tir uchel, i atal yr ymosodwyr. Rhennid y fyddin Seisnig yn dair rhan, gyda mab hynaf y brenin, Edward, y Tywysog Du yn gyfrifol am un ohonynt. Ar grib y bryn, roedd saethyddion y bwa hir, llawer ohonynt yn Gymry.

Roedd gan y fyddin Ffrengig garfan o saethyddion y bwa croes o Genova, ond nid oeddynt yn medru saethu hanner mor gyflyn a saethyddion y bwa hir, a bu raid iddyn encilio. Ymosododd y marchogion Ffrengig, ond roeddynt yn gorfod marchogaeth i fyny'r llethr tros dir gwlyb a lleidiog, yn wyneb storm o saethau. Lladdwyd cyfran uchel o uchlwyr Ffrainc, y rhan fwyaf heb hyd yn oed fedru cyrraedd at y fyddin Seisnig.

Map o Frwydr Crécy

Ymhith arweinwyr y Cymry yn y frwydr, roedd Syr Rhys ap Gruffudd; efallai iddo gael ei wneud yn farchog yn dilyn y frwydr. O'r frwydr yma y deillia y defnydd o symbol y tair pluen wen a elwir yn "Blu Tywysog Cymru", gyda'r arwyddair Ich Dien. Roeddynt yn cael eu defnyddio gan Jean, brenin Bohemia, oedd yn ymladd ar ochr Ffrainc. Er ei fod yn ddall, mynnodd gael ei arwain at yr ymladd, a lladdwyd ef. Edmygai'r Tywysog Du ei ddewrder, a chymerodd y plu fel ei arfau ei hun. Yn ddiweddarach, daethpwyd i'w hystyried fel symbol o Gymru; fe'i defnyddir gan Undeb Rygbi Cymru er enghraifft.