Mae Brwydr Glenshiel (10 Mehefin 1719) yn nodi diwedd gwrthryfel y Jacobitiaid o 1719. Ymladdwyd y frwydr yn Glen Sheil yng ngorllewin Ucheldiroedd yr Alban, rhwng byddin y llywodraeth Brydeinig dan y Cadfridog Joseph Wightman a byddin Jacobitaidd dan yr Arglwydd George Murray, oedd yn cael ei chynorthwyo gan fyddin Sbaenaidd fechan. Ymhilth arweinwyr eraill y Jaconitaid, roedd yr enwog Rob Roy MacGregor.

Brwydr Glenshiel
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad10 Mehefin 1719 Edit this on Wikidata
Rhan oGwrthryfel y Jacobiaid ym 1719 Edit this on Wikidata
LleoliadGlen Shiel Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethTeyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
RhanbarthCyngor yr Ucheldir Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Roedd y niferoedd ar y ddwy ochr fwy neu lai yn gyfartal, tua 1,000 yr un. Roedd y Jacobitiaid mewn safle amddiffynnol gref yn Glen Sheil, ychydig o filltiroedd o Loch Duich. Ymosododd byddin y llywodraeth, ac ar ôl tua thair awr o frwydro, gorfodwyd y Jacobitiaid i ildio neu ffoi. Clwyfwyd yr Aglwydd George Murray a Rob Roy MacGregor yn ddifrifol. Lladdwyd tua 100 o Jacobitiaid a 21 o filwyr y llywodraeth. Daeth y gwrthryfel i ben yn fuan wedyn.

Brwydr Glenshiel 1719 gan Peter Tillemans

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato