Roedd Brwydr Salamis (Groeg: 'Ναυμαχία τῆς Σαλαμῖνος' , Naumachia tes Salaminos ) yn frwydr rhwng llynges nifer o ddinas-wladwriaethau Groeg a llynges yr Ymerodraeth Bersaidd yn mis Medi, 480 CC. Ymladdwyd y frwydr yn y culfor rhwng Ynys Salamis a Piraeus, gerllaw Athen.

Brwydr Salamis
Ymosodiad y Persiaid
Symudiadau i Salamis

Yn 480 CC ymosododd Xerxes I, brenin Persia ar y Groegiaid gyda byddin a llynges enfawr, gyda’r bwriad o wneud Groeg yn rhan o’r Ymerodraeth Bersaidd. Croesodd ei fyddin yr Hellespont ar bont wedi ei gwneud o longau, a meddiannodd ei fyddin ogledd Groeg, cyn anelu tua’r de, gyda’r llynges yn cadw cysylltiad a’r fyddin. Ymladdwyd Brwydr Artemisium rhwng y ddwy lynges heb ganlyniad clir, a’r un pryd ymladdwyd Brwydr Thermopylae ar y tir. Pan glywodd y llynges fod amddiffynwyr Thermopylae i gyd wedi eu lladd, symudodd y llynges tua’r de.

Roedd dadl yn Athen ynglŷn â beth i’w wneud, gyda rhai o’r dinasyddion yn annog brwydro yn erbyn y fyddin Bersaidd ar y tir, fel y gwnaeth Athen yn llwyddiannus yn erbyn byddin Bersaidd lawer llai ym Mrwydr Marathon ddeng mlynedd yn gynt. Mynnai Themistocles y dylai’r Atheniaid adael eu dinas a dibynnu ar eu llynges, ac ef a enillodd y ddadl. Llwyddodd hefyd i berswadio’r Groegiaid eraill i ymladd ger Salamis; roedd y Spartiaid yn arbennig yn argymell encilio i’r Peloponnesos. Cipiodd y Persiaid ddinasoedd Plataea a Thespiae yn Boeotia, yma aethant ymlaen i feddiannu dinas Athen.

Yn llynges y Groegiad, roedd 378 o longau yn ôl yr hanesydd Herodotus, sydd wedyn eu eu rhestru fel a ganlyn:

Dinas Nifer
o longau
Dinas Nifer
o longau
Athen: 180 Corinth: 40
Aegina: 30 Chalcis: 20
Megara: 20 Sparta: 16
Sicyon: 15 Epidaurus: 10
Eretria: 7 Ambracia: 7
Troizen: 5 Naxos: 4
Leucas: 3 Ermioni: 3
Styra: 2 Cythnus: 2
Ceos: 2 Melos: 2
Siphnus: 1 Seriphus: 1
Croton: 1
Cyfanswm 366

Agrwymwyd fod y 12 llong nad yw Herodotus yn rhoi cyfrif ohonynt yn dod o Aegina. Mae awduron eraill yn rhoi niferordd gwahanol, er enghraifft 310 yn ôl Aeschylus. Yn ymarferol, Themistocles oedd yn rheoli’r llynges, ond enwyd Eurybiades o Sparta fel llynghesydd. Nid oes sicrwydd faint o longau oedd gan y Persiaid, ond mae nifer o awduron modern yn awgrymu tua 650. Yn wreiddiol roedd ganddynt, eto yn ôl Herodotus, 1,207 o longau pan ddechreuodd Xerxes ei ymgyrch, ond roedd llawer wedi eu colli yn y cyfamser mewn stormydd. Roeddynt yn cynnwys llongau o nifer o’r gwledydd oedd yn rhan o’r Ymerodraeth Bersaidd, yn enwedig y Ffeniciaid, yr Eifftiaid a Groegiaid o Ionia.

Symudodd y llynges Bersaidd i lawr yr arfordir i gyfeiriad Ynys Salamis. Dywed Herodotus fod Xerxes wedi gosod gorsedd ar Ynys Salamis uwchben y culfor i wylio’r frwydr. Dywed Herodotus hefyd fod y dadlau yn parhau rhwng Themistocles ac Eurybiades, oedd yn dymuno ymladd y frwydr ymhellach tua’r de, yn nes i ddinas Corinth. Gyrrodd Themistocles ei gaethwas, Sicinnus, athro ei blant, at Xerxes gyda neges, sef y byddai’r Groegiaid yn ffoi tua’r de yn ystod y nos, ac y dylai ymosod ar unwaith i’w dal cyn iddynt ddianc.

Trireme Groegaidd

Y bore wedyn roedd y Persiaid yn symud i mewn i’r culfor i ymosod. Wrth iddynt ddynesu, enciliodd y llongau Groegaidd nes cyrraedd rhan gulach o’r culfor rhwng Salamis a’r tir mawr, fel bod y Persiaid yn methu manteisio ar y nifer mwy o longau oedd ganddynt. Lladdwyd y llynghesydd Persaidd Ariamenes wrth ymladd â llong Themistocles; ac ymddengys i hyn beri trafferthion mawr i’r Persiaid gan nad oedd dirpwy iddo i gymeryd rheolaeth ar y llynges. Suddwyd o leiaf 200 o longau Persaidd, a gyrrwyd y gweddill ar ffo. Dioddefodd y Persiaid golledion enbyd gan nad oedd y rhan fwyaf ohonynt yn medru nofio, yn wahanol i’r Groegiaid.

Oherwydd dinistr ei lynges, ni allai Xerxes gadw ei holl fyddin yng Ngwlad Groeg, ac enciliodd i Asia Leiaf, gan adael rhan o’r fyddin dan Mardonius i barhau’r frwydr ac i warchod y rhannau oedd wedi eu concro. Y flwyddyn ganlynol gorchfygwyd Mardonius gan y Groegiaid ym Mrwydr Platea ac roedd ymgyrch Xerxes yn erbyn Groeg ar ben.

Mae nifer o haneswyr (er enghraifft Victor Davis Hanson, Donald Kagan a John Keegan) wedi disgrifio Brwydr Salamis fel y frwydr fwyaf tyngedfennol mewn hanes, gan ddadlau petai’r Persiaid wedi ennill y frwydr yma, byddai Groeg wedi dod yn rhan o’u hymerodraeth a byddai hanes Ewrop wedi bod yn wahanol.

Salamis mewn llenyddiaeth golygu

Cyfansoddodd Aeschylus, a gymerodd ran yn y frwydr, ddrama Y Persiaid sy’n cynnwys digrifiad o’r ymladd. Mae’n cynnwys y "paean" a ganwyd gan y Groegiaid ar ddechrau’r frwydr:

Ω, παίδες Ελλήνων, ίτε
Ελευθερούτε πατρίδ', ελευθερούτε δε
παίδας, γυναίκας, θεών τε πατρώων έδη,
θήκας τε προγόνων:
νύν υπέρ παντών αγών
Ymlaen, feibion y Groegiaid,
Rhyddhewch eich mamwlad, rhyddhewch
Eich plant, eich gwragedd, allorau duwiau eich tadau
A beddau eich cyndadau:
Mae popeth yn y fantol.

Llyfryddiaeth golygu

  • Peter Green, The Year of Salamis, 480–479 B.C. (Llundain, 1970)