Bryn Euryn

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru

Saif Bryn Euryn fymryn i'r gorllewin o Landrillo-yn-Rhos, tua milltir a hanner i'r gogledd-orllewin o Fae Colwyn, ym mwrdeistref sirol Conwy; cyfeiriad grid SH832798. Mae'n fryn 131 medr o uchder a goronir gan fryngaer.

Bryn Euryn
MathSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd12.23 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.303119°N 3.756095°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH8322079847 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 15metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Wrth droed Bryn Euryn ceir Llys Euryn, safle llys canoloesol a fu'n perthyn i ystad Ednyfed Fychan, distain Llywelyn Fawr. Gellir cyrraedd y gaer trwy ddilyn llwybr trwy'r coed o'r maes parcio ger yr hen lys.

Dosbarthiad golygu

 
Yr olygfa o Fae Colwyn o'r copa

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 131 metr (430 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 8 Mehefin 2009.

Y fryngaer golygu

Codwyd caer ar ben y bryn yn Oes yr Haearn. Does dim tystiolaeth archaeolegol iddi gael ei defnyddio yng nghyfnod y Rhufeiniaid, ond ymddengys i'r hen gaer gael ei hatgyweirio ar ddechrau'r cyfnod ôl-Rufeinig, mor gynnar â'r 5g efallai, a chael ei defnyddio fel amddiffynfa.[2] Mae traddodiad[3] yn ei chysylltu â'r Brenin Maelgwn Gwynedd (tua 480-547) a atgyfnerthodd Gaer Ddegannwy, rhai milltiroedd i'r gorllewin, ar ddechrau'r 6g.

Ar y copa ceir olion dwy gorlan amddiffynnol, mewnol ac allanol, ac olion adeiladau hirsgwar sydd i'w dyddio i'r Oesoedd Canol cynnar. Hefyd o'r cyfnod hwnnw, ceir gweddillion dau gwningar crwn.[4]

Roedd hyn yn lleoliad strategol pwysig sy'n amddiffyn y mynediad i'r Creuddyn ac Afon Conwy ar hyd yr arfordir o gyfeiriad y dwyrain.

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: DE071.[5] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. “Database of British and Irish hills”
  2. Helen Burnham, Clwyd and Powys, cyfres Ancient and Historic Wales (HMSO, 1995), tud. 53
  3. Thomas Pennant, Teithiau yng Nghymru, tud. 444.
  4. Clwyd and Powys, tud. 54
  5. Cofrestr Cadw.

Dolennau allanol golygu