Bryncroes

pentref yng Ngwynedd

Pentref bychan ym Mhen Llŷn, Gwynedd, yw Bryncroes ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Cyfeirnod OS: SH 22698 31465. Fe'i lleolir tua 5 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Aberdaron.

Bryncroes
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.85°N 4.63°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH226314 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

I'r de cyfyd Mynydd Rhiw (305m). Y pentrefi agosaf yw Sarn Mellteyrn, filltir i'r gogledd, a Botwnnog, 2 filltir a hanner i'r dwyrain.

Ceir ffynnon sanctaidd hynafol o'r enw Ffynnon Fair ger yr eglwys. Ceir llecyn o'r enw Mynachdy gerllaw, sy'n awgrymu ei fod yn perthyn i'r clas enwog ar Ynys Enlli ar un adeg.[1] Ar lethrau Mynydd Rhiw ceir caer gynhanesyddol Castell Caeron.

Bu gan y pentref ysgol ond fe'i caewyd er gwaethaf protestiadau yn erbyn y penderfyniad ac mae'r adeilad yn cael ei ddefnyddio fel canolfan gymuned y pentref erbyn hyn.

Enwogion golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. J. Daniel, Archaeologia Lleynensis: Hynafiaethau Lleyn (Bangor, 1892).
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato