Bryniau Clwyd

rhes o dros ugain o fryniau yng ngogledd-ddwyrain Cymru

Bryniau Clwyd (neu Moelydd Clwyd; Saesneg: the Clwydian Range) yw'r gadwyn o tua 21 o fryniau yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy'n ymestyn o gyffiniau Llandegla-yn-Iâl a Nant y Garth yn y de i gyffiniau Prestatyn yn y gogledd, gyda Moel Famau (554 metr) yr uchaf ohonynt. Er nad ydynt yn arbennig o uchel, ceir golygfeydd braf o'u copaon hyd at fynyddoedd Eryri i'r gorllewin a thros Sir y Fflint i wastadeddau Swydd Gaer a chyffiniau Lerpwl i'r dwyrain. Gorwedd y rhan fwyaf o'r gadwyn yn Sir Ddinbych ond mae'r ffin â Sir y Fflint yn rhedeg ar hyd y copaon. I'r gorllewin i'r moelydd, ac yn gyfochrog iddynt gorwedd Dyffryn Clwyd. Mae'r rhan helaethaf wedi'i glustnodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Ceir yma dystiolaeth o wareiddiad bywiog a oedd yn ffynnu yn yr Oes Efydd ac yn Oes y Cerrig, sydd yn ôl yr archeolegydd Ian Brown yn un o'r llefydd pwysicaf drwy orllewin Ewrop o dystiolaeth o fywyd dyn.[1]

Bryniau Clwyd
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.18°N 3.25°W Edit this on Wikidata
Map
Copa Moel Famau, yr uchaf o Fryniau Clwyd; Mam y bryniau
Bryniau Clwyd o Fwlchgwyn ger Wrecsam.
Moel Arthur

Hanes golygu

I'r gorllewin yn yr Oesoedd Canol yr oedd Tywysogaeth Gwynedd a Mersia Anglo Sacsonaidd gelwid yr ardal rhwng Afon Conwy ac Afon Ddyfrdwy Y Berfeddwlad sef "y tir canol".

Y Moelydd golygu

Fe'u gelwir yn Fryniau Clwyd am eu bod yn codi ar hyd ymyl ddwyreiniol Dyffryn Clwyd. Ar hyd yr oesoedd mae'r bryniau hyn wedi bod yn llinell amddiffyn naturiol i Ogledd Cymru. Mae'r gadwyn yn cynnwys nifer o fryngaerau o Oes yr Haearn, e.e. Foel Fenlli, Penycloddiau a Moel Arthur. Ceir nifer o garneddi cynhanesyddol ar y copaon hefyd. Mae Llwybr Clawdd Offa yn nadreddu o fryn i fryn.

Enwau'r bylchau golygu

Ceir nifer o fylchau'n croesi Bryniau Clwyd, gan gynnwys Allt Rhuallt a groesir gan yr A55, prif draffordd Gogledd Cymru, a'r hen ffordd Rufeinig o Gaer i Segontiwm cyn hynny. Mae bylchau hanesyddol eraill yn cynnwys Bwlch Pen Barras, sy'n cael ei groesi gan yr hen ffordd fynydd rhwng Tafarn-y-Gelyn a Rhuthun.

Ardal o Harddwch Naturiol golygu

Heddiw mae bron y cyfan o'r bryniau yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Fe'i dynodwyd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ar 24 Gorffennaf 1985. Mae hyn yn rhoi cydnabyddiaeth genedlaethol i'r Bryniau fel ardal o dirwedd safon uchel. Mae'n un o 5 AHNE yng Nghymru. Mae'n ardal gyfoethog ei llên gwerin, gan gynnwys traddodiadau am y brenin Arthur.

Copaon (o'r gogledd i'r de) golygu

  1. Bryn Coed yr Esgob (211m) SJ068812
  2. Moel Hiraddug (265m) SJ063785
  3. Mynydd y Cwm (300m) SJ073768
  4. Moel Maenfa (290m) SJ085745
  5. Moel y Parc (381m) SJ114703
  6. Penycloddiau (440m) SJ127678
  7. Moel Plas-yw (420m) SJ152669
  8. Moel Arthur (456m) SJ145661
  9. Moel Llys-y-coed (465m) SJ145655
  10. Moel Dywyll (475m) SJ151632
  11. Moel Famau (554m) SJ161626
  12. Moel y Gaer (Llanbedr) (339m) SJ148617
  13. Moel Fenlli (511m) SJ162600
  14. Moel Eithinen (434m) SJ168592
  15. Gyrn (384m) SJ165586
  16. Moel Gyw (467m) SJ171575
  17. Moel Llanfair (447m) SJ169566
  18. Moel y Plâs (440m) SJ170554
  19. Moel y Gelli (361m) SJ166545
  20. Moel y Waun (412m) SJ168534
  21. Moel yr Acre (400m) SJ169525

Delweddau (o'r gogledd i'r de) golygu

Copaon a gofrestrwyd golygu

 
Moel Fenlli.
 
Lleoliad Bryniau Clwyd
Rhwng Llandudno a Wrecsam
Enw Cyfesurynnau OS Cyfesurynnau Daearyddol
Bryn Alyn SJ200587  map  53.119°N, 3.196°W
Foel Fenlli SJ164600  map  53.13°N, 3.25°W
Mynydd yr Hob SJ294568  map  53.103°N, 3.055°W
Moel Arthur SJ145660  map  53.184°N, 3.28°W
Moel Famau SJ161626  map  53.153°N, 3.256°W
Moel Gyw SJ171575  map  53.108°N, 3.239°W
Moel Maenefa SJ087744  map  53.258°N, 3.37°W
Moel y Gaer (Rhosesmor) SJ210690  map  53.212°N, 3.184°W
Mynydd Rhyd Ddu SJ054477  map  53.018°N, 3.411°W
Mynydd y Cwm (Coed Cwm) SJ073767  map  53.279°N, 3.391°W
Penycloddiau SJ127678  map  53.2°N, 3.308°W

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Discovering a Welsh Landscape gan Ian Brown; Cyhoeddwyd gan Windgather Press; 2004; ISBN 0-9545575-7-3; tudalen 5.