Bury

Tref ym Manceinion Fwyaf, Lloegr

Tref ym Manceinion Fwyaf, Gogledd-orllewin Lloegr, ydy Bury.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Bury. Mae'n gorwedd ar lan Afon Irwell, 5.5 milltir (8.9 km) i'r dwyrain o Bolton, 5.9 milltir (9.5 km) i'r gorllewin-de-orllewin o Rochdale, a 7.9 milltir (12.7 km) i'r gogledd-gogledd-orllewin o ddinas Manceinion.

Bury
Mathtref, ardal ddi-blwyf, tref farchnad Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeisdref Fetropolitan Bury
Poblogaeth78,729 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Schorndorf, Angoulême, Tulle, Woodbury, New Jersey, Datong Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirManceinion Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd30.1 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaRamsbottom, Radcliffe, Manceinion Fwyaf Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.59315°N 2.298553°W Edit this on Wikidata
Cod OSSD805105 Edit this on Wikidata
Cod postBL9 Edit this on Wikidata
Map
Am leoedd eraill o'r un enw gweler Bury (gwahaniaethu).

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Bury boblogaeth o 77,211.[2]

Mae Caerdydd 242 km i ffwrdd o Bury ac mae Llundain yn 274.3 km. Y ddinas agosaf ydy Salford sy'n 12 km i ffwrdd.

Cerflun Robert Peel

Hanes golygu

Mae gan Amgueddfa Bury tystolaeth (wrn a phres) bod y Rhufainwyr yno, yn dyddio o 253-282.[3] Adeildodd Agricola ffordd o Fanceinion i Ribchester (Bremetennacum), trwy Radcliffe.

Cyn symudwyd Afon Irwell i’w chwrs presennol, llifodd hi heibio’r craig sy wedi rhoi’r enw ‘The Rock’ i’r heol ymghanol y dref, lle oedd plasty, eglwys y plwyf a sawl tŷ. Adeiladwyd Castell Bury]] ym 1469 ar dir uchel uwchben Afon Irwell[4].

Daeth ffatrioedd a melinau i‘r dref, a cododd poblogaeth y dref o 7072 i 15086, rhwng 1801 a 1830. Crewyd Bury Savings Bank ym 1822; daeth y banc y TSB.[5]

Y Chwyldro Dywidiannol golygu

Roedd bythynnod gwehyddion yn ystod y 17eg a 18fed ganrif yn Elton a daeth melinau yn defnyddio ynni dŵr.[6][7] Sefydlwyd Melin Brooksbottom ym 1773, i argraffu Calico yn Summerseat, gan deulu Peel. Erbyn dechrau’r 19eg ganrif, roedd y dywidiant Cotwm yn bwysig i’r dref, a’r Afon Irwell ac Afon Roch yn cyflenwi pŵer a dŵr i’r melinau. Agorwyd Camlas Manceinion, Bolton a Bury ym 1808 yn rhoi cysylltiad i’r camlesi eraill. Adeilaladwyd Cronfa Dŵr Elton i roi dŵr o’r Irwell i’r gamlas. Roedd 7 melin cotwm yn Bury erbyn 1818. Aeth poblogaeth y dref o 9.152 ym 1801 i 20,710 ym 1841 a 58.029 erbyn 1901. Adeiladwyd rheilffyrdd o orsaf reilffordd Bury (Heol Bolton) i Rawtenstall, Accrington a Manceinion, ac o orsaf Reilffordd Bury (Heol Knowsley) i Bolton, Heywood a Rochdale. Tyfodd dywidiannau papur a pheiriannu ysgafn. Ehangwyd y dref i gynnwys Elton. Walmersley a Heap ac adeiladwyd tai terasau. Nid oedd strydoedd neu garthfosydd, ac roedd tai yn orlawn, felly daeth clefydd a marwolaeth yn gyffredin[8]. Comisiwnwyd adroddiad gan Syr Robert Peel (Prif Weinidog ar y pryd), yn gofyn am wybodaeth oddi wrth meddygon. Roedd gan Heol y Brenin 10 tŷ, bob un gyda 1 ystafell wely, ac roedd yno poblogaeth o 69. Digwyliad einioes pobl Bury oedd 13.8 blwyddyn.[9] Astudiwyd 38 llety yn y dref; rhanwyd gwelyau yn ddiwahân gan dynion a merched mewn 73%. Roedd 81% yn fudr, ac roedd 5.5 pobl mewn gwely ar gyfartaledd.[10]

Hanes diweddar golygu

 
Tai terasau, 1958

Dechreuodd diflaniad y dywidiant cotwm ar ôl yr Ail Ryfel Byd. A dymchwelwyd melinau. Adeiladwyd ardal siopa concrît yn y 60au, yn disodli hen siopau canol y dref, a disodlwyd yr un newydd gan Ganolfan Siopa Mill Gate ym 1995. Adeiladwyd siopau eraill ar Y Rock, gan gynnwys Marks & Spencer, Debenhams, Boots UK, Clark's, Poundland, Body Shop and Warren James Jewellers ym 2010, yn costio £350 miliwn o bunnau. Agorwyd canolfan feddygol a swyddfeydd newydd cyfagos i Neuadd y Dref yn 2010au. Mae Bury yn nodedig am ei marchnad ac am ei bwdin gwaed. Yn ddiweddar, mae’r dref wedi dod yn gartref i gomudwyr sy’n gweithio ym Manceinion a chrewyd stadau tai yn Unsworth, Redvales, Sunnybank, Brandlesholme, Limefield, Chesham ac Elton. Disodlwyd y rheilffordd rhwng Manceinion a Bury gan gangen y Metrolink Manceinion ym 1992, a chyrhaeddodd draffordd M66 ym 1978.

Ffiwsilwyr Swydd Gaerhirfryn golygu

 
Cofeb ryfel i Ffiwsilwyr Swydd Gaerhirfryn yng Ngerddi Whitehead

Daethant Ffiwsilwyr Swydd Gaerhirfryn ar ôl iddynt ymuno â byddin William o Oren, ar ôl iddo lanio yn Brixham, Dyfnaint ym 1688. Sefydlwyd depo’r gatrawd ym Marics Wellington ym 1881.[11] Roedd adeiladu’r barics yn ymateb i ymgyrch y Siartwyr.

Rheilffordd Dwyrain Swydd Gaerhirfryn golygu

 
Trên ar Reilffordd Dwyrain Swydd Gaerhirfryn

Mae’r Rheilffordd Dwyrain Swydd Gaerhirfryn yn reilffordd dreftadaeth rhwng Heywood, Gorsaf reilffordd Heol Bolton. Bury, Ramsbottom a Rawtenstall.[12]

Poblogaeth golygu

Yn 2001, roedd gan y dref boblogaeth o 77,211; poblogaeth y fwrdeistref oedd 183,200.[13]

[[Poblogaeth Bury ers 1901
Blwyddyn 1801 1811 1821 1831 1839 1851 1881 1891 1901 1911 1921 1931 1951 1961
Poblogaeth 19,915 24,986 30,655 42,305 55,577 63,803 39,238 41,038 58,029 58,648 56,403 56,182 58,838 60,149
Source: Vision of Britain[14]

Llywodraethu golygu

Yn wreiddiol, roedd Bury yn blwyf, ac wedyn yn ‘select vestry’ gyda ‘bwrdd o warchodwyr y tlodion’. Ychwanegwyd ‘Cymisiynwyr Gwelliant’ cyn rhoddwyd siarter fwrddeistrefol ym 1876. Ym 1889 daeth Bury yn Fwrddeistref Sirol o Swydd Gaerhirfryn. Rhoddwyd arfbais i’r dref ym 1877, yn cynnwys efail, cnu aur, gwenoliaid gwehiddion a phapurbrwynen. Uwchben mae miswrn caeëdig, Cilionyn, a dau rosyn coch. Arwyddair y dref yw ‘Vincit Omnia Industria’; ‘Gorchfyga gwaith bopeth’.

Wedi’r aildrefniad o lywodraeth leol ym 1972, daeth Bury yn fwrddeistref trefol, yn cynnwys ardaloedd ychwanegol, megis Radcliffe, Prestwich, Whitefield, Tottington, a Ramsbottom.

Cynhaliwyd refferendwm ar 3 Gorffennaf 2008, a gwrthodwyd penodiad o faer etholedig.[15]

Addysg golygu

[[File:Derby High School, Manchester.jpg|thumb|260px|right|Ysgol Uwchradd Derby, Bury

Colegau golygu

  • Coleg Bury
  • Coleg Holy Cross

Ysgolion Uwchradd golygu

  • Ysgol Uwchradd Broad Oak
  • Ysgol Uwchradd Egwlys Lloegr Bury
  • Ysgol Uwchradd Bury (Bechgyn)(Annibynnol)
  • Ysgol Uwchradd Bury (Merched)(Annibynnol)
  • Ysgol Uwchradd Derby
  • Ysgol Uwchradd Elton
  • Ysgol Uwchradd St Gabriel's (Catholig)
  • Ysgol Uwchradd Tottington
  • Ysgol Uwchradd Woodhey

Chwaraeon golygu

Roedd C.P.D Bury yn dîm bêl-droed leol, yn chwarae yng [[Cymgrair Un|Nghyngrair Un yr E.F.L, ond roedd gan y clwb problemau cyllidol a pherchnogaeth ddiffigiol, a dirarddelwyd y clwb o’r gynghrair yn Awst 2019.

Mae’r Lancashire Spinners yn dîm bêl basged o’r dref, yn cystadlu yng Nghyngrair Saesneg Bêl Basged Lloegr Adran 1. Mae gen y clwb cysylltiad efo Coleg Myerscough.

Mae Bury Broncos yn dîm Rygbi Cynghrair yn ardal Prestwich. Ffurfiwyd y clwb yn 2008 ac maent yn chwarae yn Adran 1 o Gynghrair Dynion y Gogledd-Orllewin.

Daearyddiaeth a Thywydd golygu

Mae Bury ar gyrion y bryniau Penwynion, ar Afon Irwell. Mae [[Afon Roch yn ymuno â’r Irwell i’r de o’r dref.

Mae’r tywydd yn tueddol i fod yn gymedrol oherwydd cysgod y bryniau. Mae’r haf y tymor sychaf; Mae’n anaml iawn bod y tymheredd yn codi dros 30 gradd centigradd. Mae’n bosibl bod y tymheredd yn disgyn yn is na’r rhewbwynt yn ystod y gaeaf. Mae llifogydd yn digwydd yn achlysurol yn Ramsbottom. Yn y bôn, mae Bury ar dir uchel, felly mae llifogydd yn brin.

Enwogion golygu

Trafnidiaeth golygu

 
Bury Interchange, complete with a Metrolink tram

Mae rhwydwaith bws yn cysylltu’r dref â threfi gerllaw, ac mae Metrolink Manceinion yn rhoi gwasanaeth da i Fanceinion, trefi eraill a Maes Awyr Manceinion.

Hanes trafnidiaeth golygu

Rhwng 1903 a 1949 roedd gan Bury rhwydwaith o dramffyrdd. Agorwyd Gorsaf reilffordd Heol Bolton ym 1846, ac ail-adeiladwyd yn y 1880au a 1950au. Ar ôl Rhagfyr 1966 yr unig drenau i deithwyr oedd i Fanceinion, yn defnyddio trenau trydanol. Agorwyd Gorsaf reilffordd Bury (Heol Knowsley) ym 1848, a chaewyd yr orsaf ym 1970. Aeth trenau o Heol Knowsley i Bolton neu Rochdale ac ymlaen at lefydd eraill megis Gorsaf reilffordd Preston, Blackpool neu Bradford a Leeds.

Dymchwelwyd Gorsaf reilffordd Heol Knowsley yn y 1970au cynnar ac agorodd Cyfnewidfa Bury ym mis Mawrth 1980 ar safle gerllaw, yn cynnwys Gorsaf reilffordd, yn disodlu Gorsaf reilffordd Heol Bolton, a gorsaf bysiau. Terfynwyd y wasanaeth trênau trydanol ym 1991, a dechreuodd gwasanaeth tramiau Metrolink yn Ebrill 1992, yn defnyddio’r cyfnewidfa. Mae’r tramiau’n mynd i Fanceinion, a bob yn ail yn mynd ymlaen at Altrincham. O Fanceinion, mae tramiau eraill yn mynd ymlaen at Cyfnewidfa Eccles, Rochdale, Ashton-under Lyne, Dwyrain Didsbury, MediacityUK yn Salford a Maes Awyr Manceinion.

Trefnir mwyafrif y wasanaethau bysiau yn y dref gan Diamond a Rosso. Mae hefyd maes parcio am ddim a hwb beiciau ger y cyfnewidfa, sy’n gyfleus i’r farchnad a chanolfan siopa.

Adeiladau nodedig golygu

 
Gorsaf reilffordd Heol Bolton
 
Tŵr Cloc Whitehead

Mae cerflun o Syr Robert Peel gan Edward Hodges Baily ynghanol y dref. [18] a chofeb ryfel i Ffiwselwyr Swydd Gaerhirfryn gan Edwin Lutyens'tu allan amgueddfa’r ffiwselwyr.[19] Mae cerflun y ‘Cheering Fusilier’ gan George Frampton yn deyrnged i feirw yr Ail Ryfel Boer, yn sefyll yn Ngerddi Whitehead. stands in Whitehead Garden near the town hall.[20] Mae’r Cofeb Kay yn deyrnged i John Kay, dyfeisydd y ‘Flying Shuttle[21]’. Cynlluniwyd y gofeb gan William Venn Gough ym 1908, gyda sawl plac efydd gan John Cassidy.[22]

Diwylliant golygu

Bury Met golygu

Mae Bury Met yn ganolfan berfformio yn Neuadd Derby]] ar Heol y Farchnad, lle gwelir dramau, cerddoriaeth a chomedi.[23] Mae perfformwyr megis Peter Kay, Jason Manford, Steve Coogan ac Eddie Izzard wedi perfformio yno.

Amgueddfeydd a Orielau golygu

Mae gan Amgueddfa Gelf Bury ar Heol Moss gasgliad da o gelf o’r oes Fictoria a’r 20fed ganrif, yn cynnwys gwaith J. M. W. Turner, John Constable, ac Edwin Henry Landseer.

Mae’r Amgueddfa Ffiwsilier, ar Heol Broad, yn dathlu dros 300 mlynedd hanes y Ffiwsiliers Swydd Gaerhirfryn

Mae Amgueddfa Drafnidiaeth Bury yn sied nwyddau Castlecroft (adeilad rhestredig gradd II) yn rhan o Reilffordd Dwyrain Swydd Gaerhirfryn.

Cerddoriaeth golygu

Mae’r grŵp “Elbow”, gyda Guy Garvey, yn dod o’r dref. Roddwyd y grŵp rhyddid y bwrddeistref yn 2009 ar ôl ennill gwobrau Brit a Mercury.[24]

Mae gan y dref sawl gŵyl cerddoriaeth, gan gynnwys ‘Glaston-Bury’ a Gŵyl Cerddoriaeth Ramsbottom, sy’n cynnwys bandiau a disgo tawelwch.

Bwyd golygu

Mae Bury yn nodedig am ei Pwdin Gwaed[25] sy’n ymddangos yn aml iawn fel "Bury Black Pudding" ar fwydlen. Gwneir Cacen Simnel yn y dref hefyd.

Gefeilldrefi golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 3 Ionawr 2020
  2. City Population; adalwyd 24 Awst 2020
  3. Dobb, Arthur J (1970), 1846 Before and After: A Historical Guide to the Ancient Parish of Bury
  4. "Bury Castle on Pastscape"
  5. Gwefan Cyngor Bury
  6. "Gwefan Spinning the Web". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-12. Cyrchwyd 2021-06-09.
  7. A guide to the Industrial Archaeology of Greater Manchester gan Robina McNeil a Michael Nevell, cyhoeddwyd 2000 gan Association for Industrial Archaeology;isbn 978-0-9528930-3-5
  8. From Parish to Metro: Two Centuries of Local Government in a Lancashire Town; awdur Jean Bannister, 1974; cyhoeddwr: Bury Times; isbn 978-0-9504263-0-3
  9. A History of Local Government’ 1946 gan Kingsley Bryce Smellie; cyhoeddwyr G. Allen & Unwin Ltd; isbn= 0-04-352016-2
  10. Health of Towns Commission, 1844
  11. Barracks Gwefan BBC
  12. Gwefan Rheilffordd Dwyrain Swydd Gaerhirfryn]
  13. Cyfrif 2001 gan Swyddfa Ystadegau Genedlaethol
  14. "Ystadegau poblogaeth, cyhoeddwyd gan Brifysgol Portsmouth". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-20. Cyrchwyd 2021-09-24.
  15. Gwefan BBC
  16. "Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Swydd Gaerhirfryn". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-23. Cyrchwyd 2021-10-05.
  17. The Buildings of England: South Lancashire, Nikolaus Pevsner; cyhoeddwyr Penguin:isbn=0-14-071036-1
  18. 'Public Sculpture of Greater Manchester' gan Terry Wyke a Harry Cocks, 2004, tud. 250–253
  19. Gwefan y Bury Times, 1 Hydref 2009
  20. 'Public Sculpture of Greater Manchester' gan Terry Wyke a Harry Cocks, 2004, tud. 256
  21. ’The Buildings of England: South Lancashire’ gan Nikolaus Pevsner. 1969; cyhoeddwyr Penguin isbn=0-14-071036-1 tud. 99
  22. 'Public Sculpture of Greater Manchester' gan Terry Wyke a Harry Cocks, 2004, tud. 244–6
  23. "Gwefan visitbury". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-12-23. Cyrchwyd 2021-12-23.
  24. Gwefan Bolton Evening News
  25. Gwefan BBC
  26. Gwefan Comisiwn Genedlaethol dros Gydweithio Datganoledig
  27. Gwefan completefrance.com

Llyfryddiaeth golygu

Dolenni allanol golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Fanceinion Fwyaf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato