C.P.D. Bwrdeistref Conwy

(Ailgyfeiriad o C.P.D. Conwy Unedig)


Clwb pêl-droed o dref Conwy yw C.P.D. Bwrdeistref Conwy (Saesneg Conwy Borough F.C.). Mae'r clwb yn chwarae yng Nghynghrair Undebol Huws Gray, sef prif adran gogledd Cymru ac ail reng pyramid pêl-droed cenedlaethol Cymru. Ffurfiwyd y clwb ym 1977 wrth i glybiau Tref Conwy a Conwy Royal British Legion uno o dan yr enw Conwy United[1].

Bwrdeistref Conwy
Enw llawn Clwb Pêl-droed Bwrdeistref Conwy
Llysenw(au) (The Tangerines)
Sefydlwyd 1977
Maes Y Morfa
Rheolwr Gareth Thomas
Cynghrair Cynghrair Undebol
Tangerine jersey, black shorts and sock
White jersey, White shorts and socks

Pêl-droed yng Nghonwy golygu

Y dyddiau cynnar golygu

Mae clybiau pêl-droed wedi bodoli yng Nghonwy ers dechrau'r 20g gyda chlwb Conwy FC yn aelodau o Gynghrair Arfordir Gogledd Cymru ym 1902-03[2] ac yn cystadlu yng Nghwpan Cymru ym 1909-10[3].

Borough Unted golygu

Y clwb enwocaf o'r ardal oedd Borough United ffurfiwyd ym 1954 wrth i glybiau Conwy Borough a Chyffordd Llandudno uno. Llwyddodd Borough United i ennill Cwpan Cymru ym 1963 a dod y clwb cyntaf o Gymru i ennill gêm yn Ewrop wrth drechu Sliema Wanderers o Malta yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop 1963-64[4][5]

Hanes Bwrdeistref Conwy golygu

Ffurfiwyd Conwy United ym 1977 wrth i glybiau Tref Conwy a Conwy Royal British Legion uno [1] ac ymunodd y clwb â Chynghrair Cymru (Gogledd) ar gyfer tymor 1977-78[6]. Ffurfiwyd Cynghrair Undebol y Gogledd ym 1984 gyda Conwy yn ennill y Gynghrair yn ei thymor agoriadol ac eto ym 1985-86[7][8] ac ym 1990 daeth y clwb yn un o aelodau gwreiddiol y Gynghrair Undebol[9].

Ym 1992 ffurfiwyd Cynghrair Cenedlaethol Cymru gyda Conwy yn cael gwahoddiad i fod yn un o'r aelodau gwreiddiol ac ym 1995-96 gorffennodd y clwb yn y trydydd safle a sicrhau eu lle yn Nghwpan Intertoto 1996[10] le cafwyd gemau yn erbyn Charleroi o Wlad Belg, SV Ried o Awstria, Zaglebie Lubin o Wlad Pwyl a Silkeborg o Ddenmarc.

Yn 2000 cwympodd y clwb allan o Uwch Gynghrair Cymru ac oherwydd problemau ariannol penderfynodd y clwb ddisgyn i Gynghrair Undebol y Gogledd yn hytrach na'r Gynghrair Undebol[1][11].

Record yn Ewrop golygu

Tymor Cystadleuaeth Rownd Clwb Canlyniad
1996 Tlws Intertoto Grŵp 4   Charleroi (c) 0-0
  Zaglebie (o) 1-2
  SV Ried (c) 1-2
  Silkeborg (o) 1-2

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Conwy Borough FC History". Conwy Borough FC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-14. Cyrchwyd 2018-07-24.
  2. "North Wales Coast League 1902-03". welshsoccerarchive.co.uk.
  3. "Welsh Cup 1909-10". welshsoccerarchive.co.uk.
  4. "Clwb y Cyffordd yn gobeithio efelychu Borough". Sgorio.
  5. "Cysylltiad Cymru a Malta: atgofion Borough United". Sgorio.
  6. "Welsh League (North) 1977-78". welshsoccerarchive.co.uk.
  7. "Welsh Alliance 1984-85". welshsoccerarchive.co.uk.
  8. "Welsh Alliance 1985-86". welshsoccerarchive.co.uk.
  9. "Cymru Alliance: History". welshsoccerarchive.co.uk.
  10. "Uefa Intertoto Cup 1996: Group 4". rsssf.com.
  11. "Welsh Premier League Table 1999-2000". welshsoccerarchive.co.uk.
Cynghrair Undebol, 2018-19

Airbus UK | Bangor | Bwcle | Cegidfa | Conwy | Dinbych | Gresffordd | Hotspur Caergybi |
Llanrhaeadr | Penrhyncoch | Porthmadog | Prestatyn | Rhuthun | Treffynnon Y Fflint | Y Rhyl