Cabaret (sioe gerdd)

Sioe gerdd ydy Cabaret. Ysgrifennwyd y geiriau gan Fred Ebb a'r gerddoriaeth gan John Kander. Mae'n seiliedig ar lyfr gan Joe Masteroff. Daeth cynhyrchiad Broadway ym 1966 yn llwyddiant ysgubol ac arweiniodd at gynhyrchu'r ffilm Cabaret ym 1972.

Cabaret
200
Poster y sioe wreiddiol
Cerddoriaeth John Kander
Geiriau Fred Ebb
Llyfr Joe Masteroff
Seiliedig ar Yn seiliedig ar ddrama John Van Druten I Am a Camera
Cynhyrchiad 1966 Broadway
1968 West End
1986 West End adfywiad
1987 Broadway adfywiad
1998 Broadway adfywiad
2006 West End adfywiad
2008 Taith y DU
2008 Portiwgal
Gwobrau Gwobr Tony am y Sioe Gerdd Orau
Gwobr Tony am y Sgôr Orau
Gwobr Tony am yr Gwobr Tony am yr Adfywiad Gorau
Gwobr Drama Desk am Adfywiad Eithriadol

Seiliwyd y sioe gerdd ar ddrama 1951 John Van Druten I Am a Camera, a oedd yn addasiad o'r nofel Goodbye to Berlin gan Christopher Isherwood. Lleolir y stori ym 1931 ym Merlin wrth i'r Natsiaid esgyn i bŵer. Canolbwyntia'r stori ar fywyd nos amheus y Kit Kat Klub ac adroddir hanes perfformwraig 19 mlwydd oed o Loegr o'r enw Sally Bowles a'i pherthynas gyda'r ysgrifennwr Americanaidd ifanc Cliff Bradshaw.

Un o is-linynnau stori'r sioe gerdd yw'r berthynas ramantus aflwyddiannus rhwng perchennog llety Almaenig Fräulein Schneider gyda'i chariad hŷn Herr Schultz, Iddew sy'n gwerthu ffrwythau. Yn goruwchwylio'r digwyddiadau ceir yr Emcee, sy'n cadw trefn ar y seremonïau yn y Kit Kat Klub. Mae ef hefyd yn drosiad parhaus trwy gydol o sioe o sefyllfa bresennol y gymdeithas o dan y Weriniaeth Weimar.