Mewn ecoleg, trefn creaduriaid sy'n dangos y ffordd trosglwyddo ynni mewn ecosystem trwy bwydo yw cadwyn fwyd neu perthynas bwydo.

Cadwyn fwyd
Enghraifft o'r canlynolsystem Edit this on Wikidata
Rhan ogwe fwyd, ecosystem Edit this on Wikidata
Yn cynnwystrophic level Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Enghraifft cadwyn fwyd: algaeprotistsgwidmorloorca. Yn yr enghraifft mae pump lefel droffig achos mae'r ynni yn llifo trwy pump organeb. Mae'r ynni yn lleihau pob amser achos dydy'r anifeiliaid ddim yn bwyta'r holl organeb, achos mae'r anifeiliaid yn defnyddio ynni i symudio ac achos mae gwastraff ynni trwy wres.

Yn lle y term "cadwyn fwyd" mae rhai pobl yn defnyddio'r term gwe fwyd, achos mae perthynas bwydo yn fwy gymhleth na'r syniad o'gadwyn', gyda nifer o anifeiliaid yn bwyta'r un fath o bwyd ac yr un pryd pob anifail yn bwyta mwy nag un math o fwyd. Mae hefyd yn bosib fod y cadwyn fwyd yn cylchred (gweler hefyd: y gylchred carbon a'r gylchred nitrogen).

Mae'n bosib fod llygryddion yn cael eu drosglwyddo dros cadwyn fwyd a felly achosi problemau, ond er mwyn deall y cyfanswm llygryddion mewn cadwyn fwyd mae'n rhaid i ystiried y pyramid biomas, sy'n dangos pa mor bwyt sy wedi ei fwyta.

Trefn cadwyn fwyd golygu

Cynhyrchydd golygu

Yr haul yw ffynhonnell egni pob organeb byw ar y Ddaear. Planhigion yw'r organeb sydd yn medru trosglwyddo egni golau'r haul i mewn i egni gemegol mewn glwcos. Mae hyn yn digwydd yn ystod ffotosynthesis, pan mae planhigyn yn cynhyrchu bwyd ei hun, sef glwcos, yn y dail. Felly, gelwir y planhigion yn cynhyrchwr, ac mae pob anifail yn dibynnu arnynt i cychwyn y cadwyn bwyd.