Caerliwelydd

dinas yn Cumbria, Lloegr

Dinas yn Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Caerliwelydd (Saesneg Carlisle,[1] Lladin Luguvalium). Saif yng ngogledd-orllewin eithaf Lloegr, 16 km o'r ffin a'r Alban. Roedd gynt yn dref sirol hanesyddol Cumberland, ac yn awr mae'n gartref i bencadlys awdurdod unedol Cumberland.

Caerliwelydd
Mathdinas, tref sirol, ardal ddi-blwyf, plwyf sifil, city of United Kingdom Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Caerliwelydd, Cumberland
Poblogaeth75,399 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iFlensburg, Słupsk Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCumbria
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd18.9 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr28 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLockerbie Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.8947°N 2.9364°W Edit this on Wikidata
Cod OSNY395555 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan ardal adeiledig Caerliwelydd boblogaeth o 77,728.[2]

Hanes golygu

Mae Caerliwelydd yn sefyll ger pen gorllewinol Mur Hadrian. Sefydlodd y Rhufeiniaid gaer o adeiladwaith pren tua OC 72 neu 73. Codwyd caer newydd yn ei lle tua OC 105. Yn 165 codwyd caer gerrig yn ei lle. Mae rhai haneswyr yn awgrymu mai Caerliwelydd oedd prifddinas Valentia, talaith Rufeinig o fewn Britannia a sefydlwyd yn 369, ond ni ellir profi hynny.

Mae'r enw Rhufeinig Luguvalium yn dynodi "mur neu le Llug" a thybir mai enw duw brodorol yw Llug. Yr enw Cymraeg yw Caerliwelydd, Caer Lliwelydd, a cheir mwy nag un enghraifft o'r enw personol Lliwelydd mewn testunau Hen Gymraeg a Chymraeg Canol (e.e. Llwyddawg fab Lliwelydd yn Englynion y Beddau, Llyfr Du Caerfyrddin).

Adeiladau a chofadeiladau golygu

  • Amgueddfa Tŷ Tullie
  • Castell Caerliwelydd
  • Eglwys gadeiriol

Enwogion golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 22 Chwefror 2020
  2. City Population; adalwyd 23 Ebrill 2023

Dolen allanol golygu