Calabria

rhanbarth yr Eidal

Rhanbarth yn ne-orllewin yr Eidal yw Calabria (Lladin: Brutium). Catanzaro yw'r brifddinas; dinasoedd pwysig eraill yw Reggio Calabria a Cosenza.

Calabria
Mathrhanbarthau'r Eidal, gorynys, ardal ddiwylliannol Edit this on Wikidata
PrifddinasCatanzaro Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,947,131 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethRoberto Occhiuto Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iBuenos Aires, Amman Edit this on Wikidata
NawddsantFrancisco Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDe'r Eidal, De'r Eidal Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd15,221.9 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBasilicata Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau39°N 16.5°E Edit this on Wikidata
IT-78 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Calabria Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCyngor Rhanbarthol Calabria Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
arlywydd Calabria Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethRoberto Occhiuto Edit this on Wikidata
Map

Mae Calabria yn ffurfio penrhyn yn pwyntio tua'r de-orllewin, a Chulfor Messina, dim ond 3.2 km yn ei fan gulaf, yn ei wahanu oddi wrth ynys Sicilia. Dim ond ag un rhanbarth arall y mae ganddo ffîn, sef Basilicata yn y gogledd. Mae'r rhanbarth yn ardal fynyddig, gyda mynyddoedd Pollino, La Sila ac Aspromonte.

Yn y cyfnod cynnar, roedd yr ardal yn rhan o Magna Graecia, gyda nifer o ddinasoedd Groegaidd adnabyddus megis Rhegion (Reggio Calabria), Sybaris, Kroton (Crotone), a Locri. Concrwyd yr ardal gan y Rhufeiniaid yn y 3 CC.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 1,959,050.[1]

Lleoliad Calabria yn yr Eidal

Rhennir y rhanbarth yn bum talaith a enwir ar ôl eu canolfannau gweinyddol, sef:

Taleithiau Calabria

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 23 Rhagfyr 2020