Organ gyhyrol siambrog yw'r galon sy'n gorwedd ychydig i'r chwith o linell ganol y corff. Dyma'r cyhyr sy'n pwmpio'r gwaed ar hyd y cylchrediad fasgwlar drwy gyfrwng yr hyn a elwir yn system gylchredol y corff. Ceir ochr dde ac ochr chwith, y ddau yn cynnwys atriwm (hefyd cyntedd) a fentrigl (hefyd bolgell). Mae llawer o dermau meddygol sy’n ymwneud â’r galon yn defnyddio’r term cardiaidd (e.e. cardioleg ‘astudiaeth sy’n ymwneud â’r galon’) ac mae’r gair yn tarddu o’r gair Groeg cardia (καρδιά) ‘calon’.

Mae'r saethau gwyn yn dangos llif y gwaed.
Uwchsain y galon.

Mae calon pob fertebrat wedi ei wneud allan o'r cyhyr arbennig ac unigryw hwn, sef y cyhyr y galon ac mae'n gweithredu ar ei liwt ei hun, gan bwmpio tua 2.5 biliwn o weithiau mewn rhychwant oes o 66 mlynedd. Y curiad arferol a chyfartalog ydy 72 curiad y funud ac mae calon merch yn pwyso rhwng 250 gram a 300 gram a rhwng 300 a 350 gram mewn dyn.[1]

Yn y diagram (ar y dde) rydych yn gallu gweld falfiau. Mae’r galon yn cynnwys falfiau i atal y gwaed rhag llifo yn ôl. Mae gan yr ochr dde falf deirlen (falf gyda thri chaead), ac mae gan yr ochr chwith falf ddwylen (falf gyda dau gaead).

Mae gan y ddwy ochr falfiau cilgant. Y falf cilgant ysgyfeiniol ydy lle mae’r gwaed yn pwmpio o’r fentrigl dde, i’r rhydweli ysgyfeiniol. Y falf Aortig lle mae’r gwaed yn pwmpio o’r fentrigl chwith i’r aorta.

Mae cyflenwad gwaed cyhyr y galon ei hun yn dod o’r rhydwelïau coronaidd. Ond mae’r rhain yn gallu cael eu cau gan blaciau brasterog sy’n cynnwys colesterol, gan arwain at glefyd coronaidd y galon.

Os ydy rhydweli goronaidd yn cau, mae’r cyflenwad gwaed i ran o’r galon yn cael ei dorri i ffwrdd. Dydy’r rhan honno o’r galon ddim yn gallu parhau i gyfangu, gan achosi trawiad ar y galon.

Cyfeiriadau golygu

  1. Kumar, Abbas, Fausto: Robbins and Cotran Pathologic Basis of Disease, 7ed argraffiad, tud. 556
  Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am calon
yn Wiciadur.