Emyn Cymraeg a ysgrifennwyd yn y 19g gyda geiriau gan Daniel James (Gwyrosydd) a thôn gan John Hughes yw Calon Lân.

Calon Lân
Enghraifft o'r canlynolemyn Edit this on Wikidata

Geiriau golygu

Nid wy'n gofyn bywyd moethus,
Aur y byd na'i berlau mân:
Gofyn wyf am galon hapus,
Calon onest, calon lân.

Calon lân yn llawn daioni,
Tecach yw na'r lili dlos:
Dim ond calon lân all ganu
Canu'r dydd a chanu'r nos.

Pe dymunwn olud bydol,
Chwim adenydd iddo sydd;
Golud calon lân, rinweddol,
Yn dwyn bythol elw fydd.

Hwyr a bore fy nymuniad
Gwyd i'r nef ar adain cân
Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,
Roddi i mi galon lân.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato