Cambig

rhywogaeth o adar
Cambig
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Recurvirostridae
Genws: Recurvirostra
Rhywogaeth: R. avosetta
Enw deuenwol
Recurvirostra avosetta
Linnaeus, 1758
Recurvirostra avosetta

Rhydydd sy'n aelod o deulu'r Recurvirostridae yw'r Cambig (Recurvirostra avosetta). Mae'n nythu yn Ewrop a gorllewin a chanolbarth Asia, a'r rhan fwyaf ohonynt yn gaeafu yn Affrica a de Asia, er bod rhai yng ngorllewin Ewrop yn aros yn eu hunfan trwy'r flwyddyn.

Mae'n aderyn du a gwyn, 42 – 45 cm o hyd, a thro ar i fyny yn y pig, sy'n ei wneud yn aderyn hawdd ei adnabod. Yr aderyn yma sy'n ymddangos ar logo yr RSPB.

Yng Nghymru mae nifer cymharol fychan wedi dechrau nythu ar warchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd yn ddiweddar, ond mae dal yn aderyn prin yng ngweddill Cymru.