Canal Street (Manceinion)

Canolbwynt cymuned hoyw Manceinion yw Canal Street a cheir yno amrywiaeth o fariau hoyw, clybiau hoyw, bwytai a siopau. Liw nos (ac yn ystod y dydd pan fo'r tywydd yn braf) llenwa'r stryd gyda phobl sydd ag awydd am barti, gyda nifer fawr o bobl yn dwristiaid lesbiaid a hoyw o ledled y byd. Cynhelir gwyl Balchder Hoyw Manceinion, a adwaenid fel Mardi Gras a Gayfest yn y gorffennol, ar y stryd hwn a'r ardal cyfagos yn ystod ail hanner mis Awst bob blwyddyn. Uchafbwynt yr wyl sy'n para tridiau yw'r "Big Weekend", a gynhelir ar benwythnos Gwyl y Banc ym mis Awst. Mae'r stryd yn edrych allan ar Gamlas Rochdale i mewn i Barc Sackville yng nghanol dinas Manceinion.

Canal Street, gyda'i harwydd wedi'i fandaleiddio i ddarllen Anal Street ("Stryd Refrol")