Cap o wlân yw Cap Trefynwy a arferid ei wisgo yn y 15ed hyd at y 18ed ganrif gan filwyr a llongwyr. Arferent, hefyd, gael eu hallforio. Ym mhentref Llangua ger Trefynwy, Sir Fynwy ceir tŷ o'r un enw - ar y ffin rhwng Swydd Henffordd a Swydd Amwythig.

Dyma'r unig enghraifft o'r cap sydd wedi goroesi; mae'n dyddio nôl i'r 16eg ac i'w weld yn Amgueddfa Trefynwy.

Tarddiad y cap golygu

 
Cap Trefynwy

Arfeid creu gwlân o ansawdd uchel iawn i'r gogledd o Drefynwy, yn yr ardal a arferai fod yn yr hen Teyrnas Gymreig Erging, yn Archenfield. Roedd y gwlân yn cael ei greu o gnu defaid Ryeland. Gwnaed ffelt allan o'r gwlân ac roedd lleoliad Trefynwy'n ei wneud yn hawdd i'w allforio, gan ei bod yn agos at o aber Afon Hafren. Erbyn y 15g roedd y diwydiant gweu yn yr ardal wedi'i sefydlu a dengys cofnodion y llys lleol fod "Capper" yn gyfenw eithaf poblogaidd yn yr ardal.[1]

Dynion oedd y gwehyddion fel arfer, ac roeddent yn perthyn i gymdeithas o wehyddwyr gyda Chyngor yr Uwch-grefftwyr yn eu rheoli. Roedd y diwydiant yn ei anterth yn ardal y Clawdd Du (neu Overmonnow) a dyma'r ardal a oedd yn cael i galw'n "Cappers' town".[2]

Llenyddiaeth golygu

Dywed Shakespeare yn ei ddrama Harri V, a sgwennwyd tua 1599:

Fluellen: "Your majesty says very true: if your majestie is remembered of it, the Welshmen did good service in a garden where leeks did grow, wearing leeks in their Monmouth caps; which, your majesty knows, to this hour is an honourable badge of the service; and I do believe your majesty takes no scorn to wear the leek upon Saint Davy's day."[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Jennifer L. Carlson: A Short History of the Monmouth Cap Archifwyd 2012-06-08 yn y Peiriant Wayback.. Adalwyd 9 Ionawr 2012
  2. Kelly's Directory 1901: Monmouth. Adalwyd 29 Chwefror 2012
  3. Shakespeare, William. "The Life of Henry V" . Wikisource. Missing or empty |url= (help); |access-date= requires |url= (help)

Gweler hefyd golygu