Cardiff-by-the-Sea

Dinas lan-môr yn San Diego County, yn nhalaith Califfornia, Unol Daleithiau America, yw Cardiff-by-the-Sea (neu Cardiff yn lleol). Fe'i lleolir ar yr arfordir rhwng Encinitas a Thraeth Solana. Mae'r Cefnfor Tawel i'r gorllewin, Encinitas i'r gogledd a dwyrain, a thraeth a lagŵn i'r de. Gyda phoblogaeth o lai na 12,000, mae Cardiff-by-the-Sea yn cael ei ystyried yn rhan o ddinas Encinitas bellach.

Cardiff-by-the-Sea
Mathanheddiad dynol Edit this on Wikidata
Poblogaeth11,537 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1911 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSan Diego County
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Uwch y môr24 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33.0208°N 117.2792°W Edit this on Wikidata
Cod post92007 Edit this on Wikidata
Map

Dechreuodd fel cymuned amaethyddol. Tyfodd yn gyflym o 1911 ymlaen gyda dyn busnes lleol, J. Frank Cullen, yn codi tai a'u gwerthu. Dywedir mai ei wraig, oedd yn Gymraes, a'i berswadiodd i enwi'r dref newydd ar ôl Caerdydd, Cymru.

Heddiw mae Cardiff-by-the-Sea yn boblogaidd ar gyfer bordhwylio a syrffio gan fod y tonnau mor dda.

Yn ôl Cyfrufiad 2010 roedd gan y ddinas 71% gwyn, 21% Hispanic, 3% Asian, 1% Affro-Americanwr a 4% Arall[1]

Logo Cardiff-by-the-Sea

Cyfeiriadau golygu

  1. "Mapping America — Census Bureau's 2005-9 American Community Survey". The New York Times. Rhagfyr 13, 2010.