Talaith yn ne Awstria yw Carinthia (Almaeneg: Kärnten, Slofeneg: Koroška). Roedd y boblogaeth yn 2011 yn 558,271. Prifddinas a dinas fwyaf y dalaith yw Klagenfurt, gyda phoblogaeth o 94,303.

Carinthia
Mathtalaith yn Awstria Edit this on Wikidata
PrifddinasKlagenfurt Edit this on Wikidata
Poblogaeth561,293 Edit this on Wikidata
AnthemCarinthian anthem Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethPeter Kaiser Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAwstria Edit this on Wikidata
GwladBaner Awstria Awstria
Arwynebedd9,535.97 ±0.01 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,449 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSalzburg, Tirol, Styria, Friuli-Venezia Giulia, Veneto Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau46.7525°N 13.8617°E Edit this on Wikidata
AT-2 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholLandtag of Carinthia Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
governor of Carinthia Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethPeter Kaiser Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Carinthia yn Awstria

Credir bod yr enw o darddiad Celtaidd, gyda dau awgrym posibl:[1]

  1. carant, "cyfaill", "perthynas" (cymharer "câr", "ceraint" yn Gymraeg).
  2. karanto, "carreg"

Mae Carinthia yn ffinio â'r Eidal a Slofenia, gyda thaleithiau Tirol, Salzburg a Styria. Ardal fynyddig yw, yn cynnwys rhan o'r Alpau dwyreiniol, ac mae copa uchaf Awstria, y Großglockner, ar y ffîn rhwng Carinthia a'r Tirol. Rhennir y dalaith yn ddwy ddinas annibynnol (Statutarstädte) ac wyth ardal (Bezirke).

Dinasoedd annibynnol golygu

Ardaloedd golygu

Dwyieithrwydd golygu

 
Arwydd dwyieithog yn Carinthia

Ceir lleiafrif Slofeneg ei iaith mewn rhannau o'r dalaith, ac mae mudiad yn galw am arwyddion ffyrdd dwyieithog. Yn 1972, penderfynodd llywodraeth Bruno Kreisky a llywodraethwr Carinthia, Hans Sima, osod arwyddion dwyieithog mewn ardal yn Ne Carinthia, ond dinistriwyd hwy gan fudiadau adain-dde oedd yn gwrthwynebu dwyieithrwydd.

Yn 1977, penderfynodd y llywodraeth ffederal osod arwyddion dwyieithog ymhob cymuned lle'r oedd 25% neu fwy o'r boblogaeth yn siarad Slofeneg. Ni lwyddwyd i'w gosod ymhob un o'r rhain oherwydd gwrthwynebiad. Yn 2001, gorchymynwyd gosod arwyddion dwyieithog ym mhob cymuned lle'r oedd 10% o'r boblogaeth yn siarad Slofeneg, ond gwrthododd y llywodraethwr ar y pryd, Jörg Haider, wneud hynny.

Gweler hefyd golygu

Nodiadau golygu

  1. cf. H.D. Pohl, Kärnten - deutsche und slowenische Namen (Klagenfurt: Hermagoras, 2000), tt. 84f., 87-118.
Taleithiau Awstria  
Awstria Isaf | Awstria Uchaf | Burgenland | Carinthia | Fienna| Salzburg | Styria | Tirol | Vorarlberg