Roedd Karl Friedrich Benz, a sillefir fel Carl ar adegau, (25 Tachwedd 1844, Karlsruhe4 Ebrill 1929, Ladenburg) yn gynllunydd peiriannau ac yn beiriannydd ceir o'r Almaen. Caiff ei ystyried fel y dyn a ddyfeisiodd y car a bŵerir gan betrol. Gweithiai ei gyfoedion, megis Gottlieb Daimler a Wilhelm Maybach a weithiai fel partneriaid, ar ddyfeisiadau tebyg ac yn ôl y sôn yn ddiarwybod o waith ei gilydd. Serch hynny Benz roddodd batent ar ei waith yn gyntaf ac ar ôl hynny, rhoddodd batent ar yr holl brosesau a wnaeth y modur tanio mewnol yn addas i'w ddefnyddio mewn ceir. Ym 1879 cafodd Benz batent ar gyfer ei fodur cyntaf, a gynlluniodd ym 1878.

Carl Benz
GanwydKarl Friedrich Michael Benz Edit this on Wikidata
25 Tachwedd 1844 Edit this on Wikidata
Mühlburg Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ebrill 1929 Edit this on Wikidata
Ladenburg Edit this on Wikidata
Man preswylQ118669544 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRepublic of Baden, Grand Duchy of Baden Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Karlsruhe Edit this on Wikidata
ymgynghorydd y doethor
  • Ferdinand Redtenbacher Edit this on Wikidata
Galwedigaethpeiriannydd, dyfeisiwr Edit this on Wikidata
PriodBertha Benz Edit this on Wikidata
PlantRichard Benz, Eugen Benz Edit this on Wikidata
Gwobr/auRudolf-Diesel-Medaille, Doethuriaeth Anrhydeddus Sefydliad Technoleg Karlsruhe, Oriel yr Anfarwolion Genedlaethol Dyfeiswyr Edit this on Wikidata
llofnod

Ym 1885, crëodd Karl Benz y Motorwagen, y modur masnachol cyntaf. Cawsai'r modur ei bŵeru gan injan betrol bedwar-stroc, sef ei gynllun ei hun. Derbyniodd batent ar gyfer ei fodur ar y 29ain o Ionawr, 1886. Roedd gan y modur dair olwyn a chawsai ei lywio gan yr olwyn flaen gyda'r teithwyr a'r injan yn cael eu cynnal gan y ddwy olwyn yn y cefn. Mae rhai pobl yn cyfeirio at y car fel y Tri-Car erbyn hyn. Gwerthodd ei fodur cyntaf ym 1888, pedair blynedd cyn unrhyw gynhyrchydd arall.

Ymysg pethau eraill, dyfeisiodd y system rheoli cyflymder sef y sbardun, y taniad gan ddefnyddio gwreichion o'r batri, y plwg tanio, y cydiwr, y newidiwr gêr, y rheiddiadur dwr a'r carbwradur.

Ym 1893, cyflwynodd Benz system lywio troi-ar-echel yn ei fodur Fictoria. Cynlluniwyd y Benz Victoria ar gyfer dau deithiwr a bwriadwyd gwerthu'r modur am gost îs er mwyn annog cynhyrchu'r modur ar raddfa eang.

Ym 1896, cynlluniodd Benz a gosod patent ar y modur tanio mewnol gwastad cyntaf gyda phistonau llorweddol gyferbyn a'i gilydd, a alwyd yn fodur bocsio neu boxermotor yn Almaeneg, cynllun sydd dal i gael ei ddefnyddio mewn rhai ceir rasio sydd â moduron perfformiad uchel.

Dolen allanol golygu