Carmel, Gwynedd

pentref yng Ngwynedd

Mae Carmel ("Cymorth – Sain" ynganiad ) yn bentref yn Nyffryn Nantlle yng Ngwynedd, rhwng Groeslon ac Y Fron. Saif wrth droed Mynydd y Cilgwyn. Datblygodd fel man i weithwyr yn chwareli llechi y cylch fyw. Enwyd y pentref ar ôl capel y Methodistiaid Calfinaidd a sefydlwyd yma ym 1827. Cafodd y capel ei enw o'r enw beiblaidd hwnnw: Mynydd Carmel.

Carmel, Gwynedd
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0708°N 4.2497°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH492550 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)
Map
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Carmel (gwahaniaethau).

Datblygwyd y pentref yn union uwchben safle'r gât ar hen wal y mynydd, ar y groesffordd rhwng y ffordd o'r arfordir i'r tir comin, a'r ffordd dros y comin ei hunan.

Ymhlith enwogion a aned yng Ngharmel mae Ifor Pritchard (artist/athro), Syr Thomas Parry a'i frawd Gruffudd Parry a Dafydd Glyn Jones sydd yn berthynas iddynt.

Dolen allanol golygu