Carreg Cadfan yw'r enghraifft gyntaf o'r iaith Gymraeg sy'n dyddio o'r 7-9g.

Carreg Cadfan
Mathheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlCadfan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.588°N 4.0853°W Edit this on Wikidata
Map

Lleoliad golygu

 
Arysgrif o ddechrau'r nawfed ganrif ar feddfaen yn Eglwys Sant Cadfan

Y tu mewn i Eglwys Sant Cadfan, Tywyn, Gwynedd (Cyfesurynnau OS: SH5881400954) ceir croes arysgrifiedig o'r enw Carreg Cadfan (weithiau Maen Cadfan). Arni y mae'r enghraifft gynharaf, yn ôl pob tebyg, o'r iaith Gymraeg. Ni ddylid cymysgu rhyngddi a'r garreg sy'n coffáu Cadfan ap Iago yn eglwys Llangadwaladr ym Môn.

Yn wreiddiol roedd y garreg dros 2.3m o uchder, ond mae bellach yn mesur 2.18m o uchder wrth 0.25m wrth 0.2m.[1]

Dyddiad golygu

Fe'i dyddiwyd gan Ifor Williams i'r 8g[2] ac adlewyrchir y farn honno yn Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig.[3] Cynigir dyddiad rhwng y 7g a'r 9g ar Coflein, gwefan Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.[4] Mae astudiaeth ddiweddar gan Patrick Sims-Williams yn dyddio Carreg Cadfan i tua dechrau'r 9g.[5]

Ystyr yr arysgrifiadau golygu

Dyma ddehongliad Patrick Sims-Williams (sydd wedi ei seilio ar waith cynharach Ifor Williams) o'r prif arysgrifau ar y pedair ochr (A, B, C, a D):[5]

A. Tengrumui cimalted gu (reic) adgan
D. ant erunc du but marciau

'Tengrumwy wraig Addian (sy'n gorwedd yma) yn agos iawn i Bud a Meirchiaw.'

B. cun ben celen
C. tricet nitanam

'Cun wraig Celyn: erys poen a cholled.'

Ar y garreg hefyd y mae’r hyn a alwodd Ifor Williams yn ddau ‘olnod’. Ar ochr C darlleniad Williams yw:

mort
cicpe
tuar

Ei ddehongliad o hyn yw ‘mortcic petuar’ (‘cofeb pedwar’).

Ar ochr A darlleniad Williams yw:

mc
Ertri

Ei ddehongliad o hynny, ar sail cymharu ag olnod C, yw ‘m(ortci)c er tri’ (‘cofeb er tri’).[6]

Cysylltiadau llenyddol golygu

Er ei phwysiced, cymharol ychydig o sylw a gafodd Carreg Cadfan gan lenorion Cymraeg. Mae'r eithriadau'n cynnwys y cerddi 'Cofebion Tywyn' gan Owain Owain[7] ac 'Y boen' gan Myrddin ap Dafydd.[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Coflein; adalwyd 20 Ebrill 2021
  2. Williams, Ifor (1972). The Beginnings of Welsh Poetry. University of Wales Press, tud. 25-40
  3. John Davies, Menna Baines, Nigel Jenkins a Peredur Lynch (gol.), Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), tud. 2288
  4. "Gwefan Coflein; adalwyd 20 Medi 2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2012-09-20.
  5. 5.0 5.1 Sims-Williams, Patrick (2007). Studies on Celtic Languages before the Year 1000. CMCS, tud. 184-5
  6. Williams, Ifor (1972). The Beginnings of Welsh Poetry. University of Wales Press, tud. 37-40
  7. Owain Owain, 'Cofebion Tywyn', Y Faner, 7 April 1972.
  8. Myrddin ap Dafydd, Clawdd Cam (Llanrwst, 2003), t. 32.