Castell Aberystwyth

castell yng Ngheredigion

Lleolir Castell Aberystwyth ar frig rhwng traeth y de a thraeth y gogledd yn nhref Aberystwyth, Ceredigion. Adfeilion yn unig a welir yno heddiw, y cwbl a erys o'r castell ag adeiladwyd ar y safle yn 1277, ond roedd sawl castell cynharach ar y safle cyn i'r un presennol gael ei godi. Mae'r amddiffynfa cyntaf yn dyddio o Oes yr Haearn.

Castell Aberystwyth
Mathcastell, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1277 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadAberystwyth Edit this on Wikidata
SirCeredigion
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr18.7 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.41328°N 4.0895°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN579815 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCD008 Edit this on Wikidata
Rhan o furiau Castell Aberystwyth

Adeiladwyd y castell presennol fel castell consentrig, o siap diamwnt, gyda phorthdy ar y ddau ben. Mae ganddo amddiffynwaith o furiau o fewn muriau a alluogai'r amddiffynwyr i saethu i lawr o uchderau amrywiol, gan helpu osgoi felly saethu cyfeillgar. Tu hwnt i'r ddau dŵr gwarchod ceir dau borthdy, barbican a thŵr tal o fewn ward mewnol y castell. Erbyn heddiw, dim ond megis awgrymu ei hanes mae'r castell, am y dinistrwyd ei strwythr mawreddog gan ryfela ac am ei fod mor agos i'r môr. Mae cofnodion hanes yn awgrymu fod cyflwr y castell yn dechrau dirywio erbyn 1343 oherwydd erydiad a achoswyd gan y gwynt a'r môr.

Mae'r castell ar agor i'r cyhoedd ac yn cynnwys parc a adeiladwyd yn ddiweddar gan gyngor y dref ar safle hen fynwent, mae'r hen gerrig beddau'n dal i'w gweld yn sefyll o gwmpas ochrau'r parc.

Hanes golygu

 

Adeiladwyd y gwir gastell cyntaf yn Aberystwyth tua milltir i lawr yr arfordir o leoliad y castell presennol, gan Gilbert de Clare tua 1110. Adnabyddid hi dan sawl enw gan gynnwys Castell Tan-y-castell, Castell Aber Rheidol ac Hen Gastell Aberystwyth.

Newidiodd y castell pren hwn ddwylo sawl gwaith wrth i'r Normaniaid ryfela â'r Cymry; cyryfhawydd y castell gyda waliau carreg dro ar ôl tro. Disgynodd y castell i ddwylo Owain Gwynedd yn 1136. Newidiodd ddwylo o leiaf tair gwaith eto cyn disgyn i feddiant Llywelyn Fawr yn 1221. Cred ysgolheigion y bu'n debygol y dymchwelodd Llywelyn y castell cyn ail-adeiladu un arall yn ei le. Ni chyfeirir at y castell eto mewn hanes tan i Edward I o Loegr adeiladu'r strwythr a adnabyddir heddiw fel Castell Aberystwyth.

Adeiladwyd hi, ynghyd â chestyll Y Fflint, Rhuddlan a Llanfair-ym-Muallt, gan y brenin Edward I, fel rhan o'i ymgyrch yn erbyn y Cymry. Dechreuwyd yr adeiladu ym 1277, ond roedd hi'n araf yn cael ei orffen, ac roedd dal heb ei orffen yn 1282 pan ddeliodd y Cymry y castell am ychydig a'i losgi. Cwblhawyd yr adeiladwaith yn 1289, ar draul mawr i Goron Lloegr.

Erbyn 1307, roedd y castell yn ffynnu ddigon i bobl ddechrau adeiladu eu tai wrth droed ei waliau, a gelwyd y dref yn Llanbadarn Gaerog, ond adnabyddwyd y dref yn aml gan enw'r castell Aberystwyth, fel yr adnabyddir y dref hyd heddiw.

Newidiodd y castell ddwylo sawl gwaith yn ystod rhyfela ac yn 1404, disgynodd y castell i ddwylo Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru. Yn fuan wedi hyn ail-gipwyd y castell gan y Saeson. Ond yn 1408, wrth i ryfel annibyniaeth y Cymry ddod i ben, dechreuodd y castell fynd ar chwal. Yn 1637, penodwyd Castell Aberystwyth yn Fathdy Brenhinol gan Siarl I o Loegr. Roedd y bathdy yn creu ceiniogau arian, ond y cysylltiad yma oedd i achosi diwedd y castell. Daeth rheolwr y Bathdy yn gyfoethog oherwydd ei swydd, a chododd fyddin o filwyr Brenhinol yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr. Trodd hyn y castell yn darged i Oliver Cromwell, a ddinistriodd y castell yn 1649.

Dolenni allanol golygu