Castell Dumbarton

Castell yn yr Alban sy'n dyddio yn ôl i'r Oesoedd Canol Cynnar yw Castell Dumbarton. Mae'r safle 240 troedfedd i fyny ar Graig Dumbarton uwchben tref Dumbarton, ger Glasgow, ar lan Afon Clud. Daw'r enw o'r enw Gaeleg: Dùn Breatainn,, "Caer y Brythoniaid"). Yma yn y cyfnod wedi ymadawiad y Rhufeiniaid o Brydain yr oedd caer Alt Clut neu Alclut (Allt Clud mewn Cymraeg Diweddar), prif lys teyrnas Frythonig Ystrad Clud yn yr Hen Ogledd. Codwyd castell arall yno yn yr Oesoedd Canol a ddaeth yn un o ganolfannau brenhinoedd yr Alban. Ychydig iawn o olion o'r cestyll hyn sy'n aros yno erbyn heddiw.

Castell Dumbarton
Mathcastell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGorllewin Swydd Dunbarton Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau55.936°N 4.5628°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganHistoric Environment Scotland Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethHistoric Environment Scotland Edit this on Wikidata
Statws treftadaethpart of a Scheduled Monument Edit this on Wikidata
Manylion
Craig Dumbarton o'r de. Roedd caer Alt Clut ar y copa ar y dde.

Hanes golygu

Credir fod bryngaer ar y safle yn Oes yr Haearn, a gwyddys fod trigolion y safle strategol hon yn masnachu efo'r Rhufeiniad. Cyfeirir Sant Padrig at y safle mewn llythyr at y brenin Ceredig o Allt Clud ar ddiwedd y 5fed ganrif (ond does dim sicrwydd fod y ddogfen yn ddilys).

 
Llun o'r castell tua 1800

O'r 5g hyd ganol y 9g roedd Allt Clud yn brifddinas teyrnas Ystrad Clud. Tua 570, Rhydderch Hael oedd brenin Ystrad Clud. Ceir traddodiad fod Myrddin wedi arod yno yn ystod ei deyrnasiad. Yn 756 syrthiodd Allt Clud i lu o Bictiaid mewn cynghrair â gwŷr Northumbria, ond byr fu eu gafael arni. Erbyn y flwyddyn 870 roedd Llychlynwyr Dulyn yn ymosod ar y gaer; syrthiodd ar ôl pedwar mis o warchae pan dorrwyd y cyflenwad dŵr. Dychwelodd y brenin Olaf i Ddulyn yn 871 gyda 200 o longau yn dwyn caethweision a thrysor. Ymddengys fod annibyniaeth Allt Clud, a'r deyrnas, wedi dod i ben ar farwolaeth Owain Foel, pan gymerodd brenhinllin Kenneth mac Alpin reolaeth ar yr ardal.

Yn yr Oesoedd Canol bu'n gastell brenhinol pwysig. Bu'n noddfa i Dafydd II (mab Robert Bruce) a'i wraig ifanc, Joan, ar ô; i'r Albanwyr golli Brwydr Allt Halidon ger Berwick-upon-Tweed yn 1333. Patrick Hepburn, Iarll 1af Bothwell, oedd Capten y castell ar Ebrill 1, 1495. Yn 1548, ar ôl trychineb Brwydr Pinkie, ger Caeredin, daeth y castell yn noddfa i Mari I, brenhines yr Alban cyn iddi lwyddo i ddianc i Ffrainc. Dirywio fu hanes y castell ar ôl hynny, ond roedd yn dal i gael ei ddefnyddio fel cartref garsiwn yn y 18g a bu presenoldeb milwrol yno yn yr Ail Ryfel Byd hefyd.

Erbyn heddiw mae'r strwythurau cynnar i gyd wedi diflannu bron ac mae'r rhan fwyaf o'r adeiladwaith yn dyddio i amser Cromwell a'r 18g.

Dolenni allanol golygu