Castell Ewyas Harold

Castell Normanaidd a leolir ger pentref Ewyas Harold, Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Castell Ewyas Harold. Mae'n gorwedd ger Abaty Dore rhai milltiroedd yn unig o'r ffin rhwng Swydd Henffordd a Sir Fynwy, Cymru, tua hanner ffordd rhwng Y Fenni yng Nghymru a Henffordd.

Castell Ewyas Harold
Mathcastell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.9534°N 2.8963°W Edit this on Wikidata
Map
Mwnt Castell Ewyas Harold

Codwyd castell mwnt a beili yma yn 1048 gan arglwydd Normanaidd yng ngwasanaeth brenin LLoegr o'r enw Osbern Pentecost[1] Codwyd y castell hwnnw ar safle amddiffynfa gynharaf ger ffrwd fechan Afon Dulas a fu, yn ôl pob tebyg, dan reolaeth arglwyddi Cymreig Ewias. Yn 1052 dinistriwyd y castell mwnt a beili hwnnw naill ai gan y Cymry neu ar orchymyn Godwin, Iarll Wessex.

Codwyd castell newydd yno gan William Fitz Osbern, Iarll Henffordd. Cofnodir y castell yn Llyfr Dydd y Farn (1086). Yn 1100 sefydlwyd priordy bychan o fewn y beili. Erbyn hynny roedd yn un o gestyll Ewias Lacy, un o arglwyddiaethau'r Mers.

Roedd cyflwr y castell wedi dirywio erbyn dechrau'r 15g pan gafodd ei adgyweirio'n sylweddol gan William Beauchamp, Arglwydd y Fenni, a ofnai y byddai Owain Glyndŵr yn ymosod arno. Ond does dim cofnod i ddangos y cafodd ofnau William eu gwireddu, er y bu byddin Glyn Dŵr yn weithgar yn ne-ddwyrain Cymru.

Roedd y castell yn adfail erbyn 1645 a dim ond olion sydd i'w gweld heddiw ar gwr y pentref.

Cyfeiriadau golygu