Castell Oxwich

castell rhestredig Gradd I ym Mhen-rhys

Castell rhestredig Gradd I wedi'i leoli ar bentir coediog yn edrych dros Fae Oxwich ar Benrhyn Gŵyr, Sir Abertawe, yw Castell Oxwich.

Castell Oxwich
Mathcastell, maenordy wedi'i amddiffyn, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadOxwich Edit this on Wikidata
SirSir Abertawe
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr65.8 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.555508°N 4.168294°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïoltuduriaid Edit this on Wikidata
PerchnogaethCadw, teulu Mansel Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwGM043 Edit this on Wikidata

Er ei fod yn bosib fod y castell wedi ei adeiladu ar safle adeilad llawer hŷn, mae'r castell fel y mae heddiw yn enghraifft o blasdy Tuduraidd crand a adeiladwyd ar arddull cwrtiau. Fe'i adeiladwyd yn y 16g gan Syr Rice Mansel er mwyn darparu llety moethus. Rhoddodd arfbais teuluol i'r castell ynghyd â ffug-borth milwrol. Gwelwyd gwaith Syr Rice yn y bloc deheuol yn unig a chwblhawyd y gwaith rhwng y 1520au a'r 30au. Pan fu farw Mansel, etifeddodd ei fab, Syr Edward Mansel yr adeilad a rhwng 1560-80 creodd adeilad llawer crandach gyda neuadd fawr ac oriel hir, a oedd yn nodwedd ffasiynol iawn ym mhensaernïaeth Oes Elizabeth. Mae'r tŵr chwe llawr i'r de-ddwyrain wedi goroesi tan heddiw a chredir yr arferai ddarparu llety i'r teulu a'r gweision. Pan adawodd y Mansels yn ystod y 1630au, adfeiliodd yr adeilad a defnyddiwyd rhan ddeheuol yr adeilad fel ffermdy.

Bellach mae'r adeilad yng ngofal Cadw.