Castell Penarlâg

castell canoloesol ym Mhenarlâg, gogledd Cymru

Castell Normanaidd yw Castell Penarlâg a godwyd ar safle ger pentref Penarlâg, Sir y Fflint gan Iarll Caer. Mae'n sefyll ar ben bryncyn lle ceir olion bryngaer o Oes yr Haearn.

Castell Penarlâg
Mathadfeilion castell Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1277 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadPenarlâg Edit this on Wikidata
SirSir y Fflint
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr75.7 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1809°N 3.01985°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ3193965349 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwFL016 Edit this on Wikidata

Ni wyddom ddim am hanes cynnar y safle ond cofnodir castell mwnt a beili Normanaidd yno mewn cofnod Seisnig o 1205.[1] Cipiwyd y castell a'i ddinistrio gan y Tywysog Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru yn 1265.[2] Ailadeiladwyd y castell gan Edward I o Loegr yn 1277 fel rhan o gyfres o gestyll Seisnig yng ngogledd-ddwyrain Cymru gyda'r bwriad o ostwng y Cymry.[3]

Fe'i cipiwyd a'i dinistrio gan Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn ap Gruffudd, mewn ymosod ar Sul y Blodau[4] (21 Mawrth 1282)[5], gweithred a fu'n un o symbylau Ail Ryfel Annibyniaeth Cymru.[6] Mae'n debyg mai o Gastell Caergwrle, castell Cymreig a godwyd mewn ymateb i godi Castell Penarlâg, y gweithredodd Dafydd.[7]

Cipwyd y castell gan y Cymry unwaith eto yn 1294 yn nyddiau cynnar gwrthryfel Madog ap Llywelyn.[8]

Ailadeiladwyd y castell gan y Saeson yn y cyfnod 1297-1329 ac mae'r rhan fwyaf o'r hyn sy'n sefyll heddiw yn dyddio o'r cyfnod hwnnw, yn cynnwys y gorthwr a'r llenfur. Bu cwffio yma yn y 1640au yn ystod Rhyfeloedd Cartref Lloegr hefyd. Adeiladwyd gerddi ac atgyweirio'r castell yn y 19eg ganrif pan godwyd ffug-gastell Penarlâg. Mae'n sefyll ar dir y castell newydd ac ar agor i'r cyhoedd ar y Sul yn unig.[9]

Cyfeiriadau golygu

  1. Helen Burnham, Clwyd and Powys. Ancient and Historic Wales. (Cadw/HMSO, 1995), tud. 195.
  2. R. R. Davies, The Age of Conquest: Wales 1063-1415 (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1991), tud. 315.
  3. The Age of Conquest: Wales 1063-1415, tud. 338.
  4. Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; adalwyd 21 Mawrth 2016
  5. Gwyddoniadur Cymru, tud. 261; Gwasg Prifysgol Cymru (2008)
  6. Paul R. Davies, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988), tud. 18.
  7. Castles of the Welsh Princes, tud. 31.
  8. The Age of Conquest: Wales 1063-1415, tud. 383.
  9. Clwyd and Powys, tud. 195.