Llwyth Celtaidd yn ne-ddwyrain Lloegr oedd y Catuvellauni. Roeddynt yn un o'r llwythau oedd yn bathu eu harian eu hunain, a gellir casglu rhywfaint o'u hanes o'r arian yma.

Llwythau Celtaidd yn ne Lloegr

Pan ymosododd Iŵl Cesar ar Brydain am y tro cyntaf yn 54 CC, ei brif wrthwynebydd oedd Cassivellaunus. Nid yw Cesar yn crybwyll i ba lwyth yr oedd yn perthyn, ond dywed fod ei diriogaethau i'r gogledd o Afon Tafwys yn yr ardaloedd lle cofnodir llwyth y Catuvellauni ychydig yn ddiweddarach. Credir fod y cloddiau yn Devil's Dyke ger Wheathampstead, Swydd Hertford yn dynodi man prifddinas wreiddiol y llwyth.

Bathodd y brenin Tasciovanus arian yn ei brifddinas, Verlamion, o tua 20 CC ymlaen. Ymddengys iddo ymestyn ei diriogaethau tua'r dwyrain a chipio Camulodunum (Colchester heddiw), oddi wrth y Trinovantes. Bathodd arian yn Camulodunum tua 15-10 CC. Ymddengys i'r Trinovantes gael Camulodunum yn ôl am gyfnod, oherwydd bathwyd arian diweddarach yn Verlamion eto.

Ail-gipiwyd Camulodunum gan Tasciovanus neu gan ei fab Cunobelinus, a'i dilynodd ar yr orsedd tua 9 OC. Yn ddiweddarach daeth Cunobelinus yn ffigwr pwysig yn hanesion Sieffre o Fynwy. Ymddengys mai'r Catuvellauni oedd y llwyth cryfaf yn ne-ddwyrain Lloegr yn y cyfnod yma, ac enillodd brawd Cunobelinus, Epaticcus, diriogaeth oddi wrth yr Atrebates.

Cofnodir tri mab i Cunobelinus, Adminius, a alltudiwyd gan ei dad ychydig cyn 40 OC, Togodumnus a Caradog (Caratacus). Ymddengys i Garadog frwydro yn erbyn llwyth cyfagos yr Atrebates a’u gorchfygu. Ffôdd Verica, brenin yr Atrebates, i Rufain ac apeliodd i’r ymerawdwr Claudius am gymorth i adennill ei deynas. Rhoddodd hyn esgus i Claudius ymosod ar Ynys Prydain yn 43 OC.

Pan laniodd y Rhufeiniaid dan Aulus Plautius, gwrthwynebwyd hwy gan Togodumnus a Caradog. Gorchfygwyd hwy gan Plautius mewn dwy frwydr ar Afon Medway ac Afon Tafwys, a lladdwyd Togodumnus. Ffodd Caradog tua'r gorllewin at y llwythau Cymreig, yn gyntaf y Silwriaid ac yna'r Ordoficiaid, cyn cael ei orchfygu gan Publius Ostorius Scapula yn 51. Ffodd Caradog at y Brigantes, ond trosglwyddodd eu brenhines, Cartimandua, ef yn garcharor i'r Rhufeiniaid.

Sefydlodd y Rhufeiniaid municipium Verulamium (heddiw, St Albans) ger safle Verulamion.

Mae'r enwau Cymreig Cadwallon a Chaswallon yn deillio o'r Catuvellauni a'u brenin Cassivellaunus.