Caws o Loegr yw caws Caerlŷr, a adnabyddir yn fwy cyffredin fel caws coch Caerlŷr, sy'n cael ei gynhyrchu mewn modd tebyg i gaws Cheddar, ond mae'n fwy briwsionllyd; lliwir ef gan ategu echdynnyn annatto yn ystod y cynhyrchiad. Mae ganddo flas weddol mwyn sy'n cydfynd gyda'r rhan fwyaf o fwydydd yn ogstal a gwin a chwrw, ac ar gyfer caws ar dost.

Caws Caerlŷr
Mathcaws llaeth buwch, caws wedi'i wasgu, amrwd, caws o wledydd Prydain Edit this on Wikidata
Deunyddllaeth Edit this on Wikidata

Caws llefrith buwch yw caws Caerlŷr, a darddir yn wreiddiol o Swydd Gaerlŷr yn Lloegr, enwir ef ar ôl dinas Caerlŷr. Mae'n gaws caled sy'n mynd gyda phasta neu tatws trwy'u crwyn. Mae ganddo flas ychydig yn gneuog ar ei orau. Er y gelwir ef yn 'gaws coch Caerlŷr', nid oes lliwiau eraill o gawsydd o Gaerlŷr i'w cael. Mae'r caws yn amrywio yn ei oedran rhwng 4 a 9 mis, mae'r caws ieuengaf yn tueddi fod yn fwy mwyn, gyda blas sawr yn datblygu ar ôl 6 mis.

Cyfeiriadau golygu