Prifddinas Guyane, département a rhanbarth tramor o Ffrainc yn Ne America, yw Cayenne. Gorwedd y ddinas ar gyn ynys ar aber Afon Cayenne ar arfordir Cefnfor Iwerydd.

Cayenne
Mathcymuned, dinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth63,468 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1664 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethSandra Trochimara Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iSalvador Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCanton of Cayenne Centre, Canton of Cayenne Nord-Est, Canton of Cayenne Nord-Ouest, Canton of Cayenne Sud, Canton of Cayenne Sud-Est, Canton of Cayenne Sud-Ouest, Guyane, arrondissement of Cayenne Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd23.6 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr143 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMacouria, Matoury, Remire-Montjoly Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau4.9386°N 52.335°W Edit this on Wikidata
Cod post97300 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Cayenne Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethSandra Trochimara Edit this on Wikidata
Map
Erthygl am y ddinas yw hon. Gweler hefyd Cayenne (gwahaniaethu).
Place Schoelcher, Cayenne

Yn ôl cyfrifiad, roedd yna 66,149 o bobl yn byw yn ardal drefol Cayenne, gyda 50,594 ohonynt yn byw yn ninas (commune) Cayenne ei hun, a'r gweddill yn commune gyfagos Remire-Montjoly. Mae commune Matoury (poblogaeth 18,032 yn 1999), lle ceir Maes Awyr Cayenne-Rochambeau, yn un o faesdrefi Cayenne hefyd. Yn cynnwys Matoury, roedd gan yr ardal drefol gyfan boblogaeth o 84,181 yn 1999. Erbyn 2008 mae'n bosibl fod y ffigwr yn agosach i 100,000 neu ragor, gyda nifer o fewnfudwyr o Frasil a'r Caribi yn tyrru yno i gael gwaith.

Eginyn erthygl sydd uchod am Dde America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato