Ymadrodd cyfreithiol yw cedwir pob hawl sy'n dynodi bod daliwr y hawlfraint yn cadw'r holl hawliau sydd ganddo dan y gyfraith hawlfraint. Roedd yr ymadrodd yn arfer bod yn angenrheidiol yn y gwledydd a arwyddodd Cytundeb Buenos Aires (1910), ond bellach nid oes gan y term unrhyw goblygiadau cyfreithiol unrhyw le ar draws y byd. Yn hytrach, defnyddir fel rhybudd o statws hawlfraint y gwaith dan sylw.

Eginyn erthygl sydd uchod am y gyfraith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.