Cefn Hergest
Cefnen ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr yw Cefn Hergest (Saesneg: Hergest Ridge). Mae'n gorwedd tua hanner ffordd rhwng Llanfair-ym-Muallt, Powys (Cymru) a Henffordd, Swydd Henffordd (Lloegr). Gorwedd rhan uchaf y gefnen yn Swydd Henffordd (426 m - 1,398 tr).
Math | bryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru Lloegr |
Uwch y môr | 426 metr |
Cyfesurynnau | 52.199°N 3.0929°W |
Cod OS | SO2543856264 |
Amlygrwydd | 158 metr |
Mae Llwybr Clawdd Offa yn dilyn Cefn Hergest, er nad ydy Clawdd Offa ei hun ar y bryn.
Enwir plwyf Hergest yn Swydd Henffordd ar ôl y gefnen, plwyf sy'n cynnwys pentref bychain Lower Hergest ac Upper Hergest. Yma y ceir plasty Hergest. Roedd y rhan hon o Swydd Henffordd yn ardal Gymraeg iawn yn yr Oesodd Canol. Roedd teulu Hergest yn noddwyr amlwg i feirdd Cymraeg a llenyddiaeth Gymraeg ac ysgrifennwyd dwy o lawysgrifau mawr yr Oesoedd Canol yno, sef Llyfr Coch Hergest, sy'n cynnwys testunau'r Mabinogi a thestunau Cymraeg eraill, a Llyfr Gwyn Hergest, a ysgrifennwyd yn rhannol gan y bardd Lewys Glyn Cothi.
Ysbrydolwyd y cerddor Mike Oldfield gan dirwedd Cefn Hergest i gyfansoddi'r albwm thematig dylanwadol Hergest Ridge (1974).