Corff mawr o ddŵr hallt a phrif ran o'r hydrosffer yw cefnfor. Gorchuddir tua 71% o wyneb y Ddaear (tua 361 miliwn km2) gan gefnfor, corff di-dor o ddŵr sydd yn aml yn cael ei rannu'n nifer o brif gefnforoedd a moroedd llai. Mae dros hanner o'r arwynebedd hwn yn fwy na 3000 m o ddyfnder. Halwynedd cefnforol cyfartalog yw tua 35 rhan y fil, ac mae gan bron i holl ddŵr môr y byd halwynedd o fewn yr amrediad o 31 i 38 rhan y fil.

Cefnfor
Delwedd:World ocean map.gif, Ocean beach at low tide against the sun.jpg
Mathgwrthrych daearyddol naturiol, corff o ddŵr, marine water body, saline water body Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebcyfandir Edit this on Wikidata
Yn cynnwysseawater, môr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cefnforoedd y Ddaear
(Cefnfor y Byd)
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Cytunodd y Sefydliad Hydrograffig Rhyngwladol yn 2000 i gydnabod pum cefnfor: Cefnfor yr Arctig, Cefnfor y De, Cefnfor yr Iwerydd, Cefnfor India, a'r Cefnfor Tawel. Mae nifer o sefydliadau ac unigolion yn defnyddio modelau amrywiol.

Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am cefnfor
yn Wiciadur.