Cemlyn

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru

Bae a gwarchodfa natur ar arfordir gogleddol Ynys Môn yw Cemlyn neu Bae Cemlyn. Saif ym nghymuned Cylch y Garn, i'r dwyrain o bentref Llanfair-yng-nghornwy, ychydig i'r gogledd o bentref Tregele ac i'r gorllewin o Orsaf Bwer Niwcliar yr Wylfa a phentref Cemaes.

Cemlyn
MathSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, bae, Lagŵn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCylch-y-Garn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd43.53 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.41°N 4.51°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion
Cemlyn, y llyn a môr-wenoliaid ar yr ynys

Disgrifiad golygu

Ceir llyn o ddŵr hallt yma, yn cael ei wahanu oddi wrth y bae gan grib o raean, gydag argae ar yr ochr orllewinol yn rheoli lefel y dŵr. Nodwyd Cemlyn fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn 1958. Mae'n perthyn i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy'n ei lesio i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, sy'n cynnal y warchodfa.

Ceir nifer o blanhigion prin yma, ac ar ddwy ynys yn y llyn mae nifer sylweddol o fôr-wenoliaid yn nythu. Y Fôr-wennol bigddu yw'r fwyaf cyffredin fel rheol, gyda dros fil o barau yn nythu yma ambell flwyddyn, er bod y niferoedd wedi gostwng yn 2007 a 2008. Ceir hefyd niferoedd llai o'r Fôr-wennol gyffredin a Môr-wennol y Gogledd.

Cyfeiriadau golygu