Duwies amaethyddiaeth yn y Rhufain hynafol oedd Ceres, y ffurf Rufeinig ar y dduwies Roegaidd Demeter. Mae'n bosibl y bu Ceres yn un o dduwiesau brodorol yr Eidal yn wreiddiol, ond daw i'r amlwg yn hanes Rhufain yn 496 CC pan gyflwynwyd addoliaeth Demeter, Persephone (Lladin: Proserpina) a Dionysus (Lladin: Bacchus) adeg sychder mawer ar orchymyn offeiriaid y Sibyl.

Ceres
Enghraifft o'r canlynolduwdod Rhufeinig, duwdod amaethyddol, duwies Edit this on Wikidata
Rhan oAventine Triad, Dii Consentes Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Fel cwlt swyddogol roedd addoliad Ceres yn dilyn y patrwm Groeg yn llwyr. Roedd y Rhufeiniaid yn arfer dathlu gemau'r Cerealia ar ddechrau mis Ebrill. Roedd yna ddathliad arall ym mis Awst: byddai'r merched yn ymprydio am naw diwrnod ac wedyn yn cyflwyno offrymau blaenffrwyth y tymor i Ceres, gan wisgo coronau o ŷd.

Pobl gyffredin oedd ei haddolwyr, yn bennaf, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig. Yno y ceir y dystiolaeth gryfaf am y dduwies Eidalaidd hynafol ei hun. Arferai'r werin bobl offrymu hwch (porca praecadanaea) i Ceres cyn gychwyn ar y gwaith o gael y cynhaeaf i mewn ac yn cyflwyno'r blaenffrwyth ŷd i deml y dduwies.

Ceres gyda Bacchus a Ciwpid, paentiad gan Hans von Aachen, Yr Almaen, 1600
Ave natura (1910), sy'n cynrychioli gorymdaith Rufeinig i Ceres, duwies gwenith. Gwaith arddull cyn-Raffaelaidd gan Cesare Saccaggi da Tortona

Ffynhonnell golygu

  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902; sawl argraffiad ar ôl hynny).