Cerflun yn ninas Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau yw Rhyddid yn Goleuo'r Byd (Saesneg: Liberty Enlightening the World, Ffrangeg: La liberté éclairant le monde), a adnabyddir fel rheol fel Cerflun Rhyddid (Statue of Liberty, Statue de la Liberté). Cyflwynwyd y cerflun i'r Unol Daleithiau gan bobl Ffrainc yn 1886. Saif ar Liberty Island ger harbwr Efrog Newydd. Cynllunwyd y cerflun gan Frédéric Auguste Bartholdi, tra cynllunwyd y tu mewn iddo gan Alexandre Gustave Eiffel (cynllunydd Tŵr Eiffel).

Cerflun Rhyddid
Mathcerfddelw, rhan o Safle Treftadaeth y Byd, atyniad twristaidd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlrhyddid Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1886 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolStatue of Liberty National Monument, Ynys Liberty Edit this on Wikidata
Rhan o'r canlynolStatue of Liberty National Monument Edit this on Wikidata
LleoliadYnys Liberty Edit this on Wikidata
SirDinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Cyfesurynnau40.689209°N 74.044425°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth neoglasurol Edit this on Wikidata
PerchnogaethNational Park Service Edit this on Wikidata
Statws treftadaethNew York City Landmark, lleoliad ar Gofrestr Llefydd Hanesyddol Cenedlaethol UDA, Historic Civil Engineering Landmark, National Register of Historic Places contributing property, New York State Register of Historic Places listed place Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddcopr, dur, concrit, gwenithfaen, eurddalen Edit this on Wikidata

Adeiladwyd y cerfun o gopr. Mae'n dangos merch yn dal fflam rhyddid. Cyhoeddwyd y cerflun yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1984.

Ar bedestal y cerflun mae'r gerdd The New Colossus gan Emma Lazarus wedi ei hysgrifennu ar dabled efydd. Mae'r llinellau olaf yn enwog:

Give me your tired, your poor,
Your huddled masses yearning to breathe free,
The wretched refuse of your teeming shore;
Send these, the homeless, tempest-tost to me,
I lift my lamp beside the golden door!