Yng nghrefydd Gâl-Rufeinig, roedd Cernunnos yn dduw Celtaidd â chyrn. Ceir delweddau ohono dros ardal eang yn nhiriogaethau'r Celtiaid, gan gynnwys Gallia Cisalpina yng ngogledd yr Eidal, Gâl a rhannau deheuol Prydain. Dangosir ef fel duw corniog, a chysylltir ef ag anifeiliaid corniog, yn enwedig y carw. Credir ei fod yn gysylltiedig â ffrwythlondeb. Ceir y ddelwedd enwocaf ohono ar Bair Gundestrup sy'n dyddio o'r ganrif gyntaf CC. Delw enwog arall yw'r un ar y Pilier des nautes ("Colofn y Morwyr"), yn awr yn y Musée National du Moyen Age ym Mharis. Ar hwn y ceir yr arysgrif gynharaf gydag enw'r duw.

Darluniad o Cernunnos, neu dduw â chyrn, ar Bair Gundestrup, Amgueddfa Genedlaethol Denmarc, Copenhagen

Fel rheol caiff Cernunnos ei bortreadu gyda chyrn carw, barf ac yn gwisgo torch, yng ngwydd anifeiliaid, yn enwedig ceirw. Mae cyfeiriad amlwg ato yn chwedl ganoloesol Iarlles y Ffynnon yn Gymraeg fel "Y Du Traws".

Ceir duwiau corniog eraill y tu allan i'r byd Celtaidd, er enghraifft y duw Groegaidd Pan a Pashupati, "Arglwydd yr Anifeiliaid" mewn Hindŵaeth. Daw "Cern" o'r un gwraidd â "corn" yn y Gymraeg.