Dilledyn amsugnol yw cewyn neu glwt (lluosog: cewynnau neu glytiau), a gaiff ei wisgo gan rai sydd methu rheoli eu pledren neu perfedd, neu sydd methu defnyddio toiled, gan amlaf gan fabanod a phlant bach. Pan fydd y cewyn yn llawn a methu dal rhagor o wastraff, rhaid i riant neu ofalwr ei newid. Os na newidir y cewyn yn ddigon rheolaidd, gall arwain at frech clwt.

Tu mewn cewyn tafladwy.
Tu allan mathau gwahanol o gewynnau defnydd.

Mae cewynnau wedi cael eu defnyddio drwy gydol hanes dyn, ac yn cael eu cynhyrchu o ddefnydd neu ddeunyddiau tafladwy. Cynhyrchir cewynnau defnydd o haenau o ddefnydd megis cotwm, bambŵ neu ficroffibr a gellir eu golchi a'u ail-defnyddio sawl gwaith gan eu dal at ei gilydd gyda pin cau neu velcro neu ddull arall. Mae cewynnau tafladwy yn cynnwys cemegion amsugnol a caent eu taflu wedi eu defnyddio unwaith. Mae'r penderfyniad i ddefnyddio cewynnau defnydd neu tafladwy yn un dadleuol oherwydd materion cyfleustera, iechyd, cost, a'u heffaith ar yr amgylchedd. Cewynnau tafladwy sy'n cael eu defnyddio yn fwyaf cyffredin ar hyn o bryd.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: