Charles Evans Hughes

Gwladweinydd Americanaidd, cyfreithiwr, a gwleidydd Gweriniaethol oedd Charles Evans Hughes yr Hynaf (11 Ebrill 186227 Awst 1948). Roedd yn 36ain Lywodraethwr Efrog Newydd o 1907 hyd 1910, a Phrif Ustus yr Unol Daleithiau rhwng 1930 a 1941. Bu ond y dim iddo ddod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau; ar 7 Tachwedd 1916 roedd llawer o bapurau newydd yr UDA yn datgan mai ef fyddai'r Arlywydd, ond collodd o drwch blewyn i Woodrow Wilson.

Charles Evans Hughes
Ganwyd11 Ebrill 1862 Edit this on Wikidata
Glens Falls, Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Bu farw27 Awst 1948 Edit this on Wikidata
Osterville Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Colgate
  • Prifysgol Brown
  • Ysgol y Gyfraith Columbia
  • Thirteenth Street School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithegwr, barnwr, cyfreithiwr, diplomydd Edit this on Wikidata
SwyddUwch Farnwr Unol Daleithiau'r America, Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Associate Justice of the Supreme Court of the United States, Governor of New York, aelod o fwrdd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
MamMary Catherine Hughes Edit this on Wikidata
PriodAntoinette Carter Hughes Edit this on Wikidata
PlantCharles Evans Hughes, Jr., Elizabeth Hughes Gossett, Helen Hughes, Catherine Hughes Waddell Edit this on Wikidata
llofnod

Cafodd ei eni ym 1862 ac roedd ei dad wedi mewnfudo o Gymru. Addysgwyd ef ym Mhrifysgol Madison, Prifysgol Brown, a Phrifysgol Columbia. Roedd yn siarad Cymraeg yn rhugl.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
   Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.