Cher (cantores)

actores a chyfansoddwr a aned yn 1946

Cynhyrchydd recordiau, cantores a chyfansoddwraig caneuon pop o'r Unol Daleithiau yw Cher (ganed Cherilyn Sarkissian; 20 Mai 1946). Yn ystod ei gyrfa, bu'n llwyddiannus ym myd cerddoriaeth, teledu a ffilm. Enillodd Oscar, Grammy, Emmy, tri Golden Globe a derbyniodd seren ar y Walk of Fame yn Hollywood.

Cher
Cher ar noson agoriadol Burlesque yn Llundain - llun gan Ian Smith
Enwau eraill Cherilyn LaPiere, Cher Bono
Ganwyd 20 Mai, 1946
El Centro, Califfornia
Math pop, Roc, Gwerin, Dawns, Disgo
Blynyddoedd 1963 - presennol
Offeryn Llais
Label Imperial (1965–1968)
Atlantic (1965–1967)
Atco (1969)
MCA (1971–1974)
Kapp Records (1971-1972)
Warner Bros. (1975–1977)
Casablanca (1979–1980)
Columbia (1982)
Geffen (1987–1991)
Warner Music UK (1995–2002)
Warner Bros. (2003–presennol)
Artistiaid cysylltiedig Sonny & Cher, Sonny Bono, Tina Turner, Christina Aguilera, Bette Midler
Gwefan www.cher.com

Dechreuodd enwogrwydd Cher (Bono) ym 1965 fel aelod o'r ddeuawd pop / roc Sonny & Cher. Yn ddiweddarach, sefydlodd ei hun fel artist recordio unigol, seren ym myd y teledu yn ystod y 1970au ac fel actores yn ystod y 1980au.