Christian Prudhomme

Gohebydd chwaraeon Ffrengig a chyfarwyddwr cyffredinol y Tour de France ers 2005 yw Christian Prudhomme (ganwyd 11 Tachwedd 1960).

Christian Prudhomme
GanwydChristian Georges Pierre Prudhomme Edit this on Wikidata
11 Tachwedd 1960 Edit this on Wikidata
12fed arrondissement Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Lille school of journalism - École supérieure de journalisme de Lille Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, gweinyddwr chwaraeon Edit this on Wikidata
Swyddcyfarwyddwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auChevalier de la Légion d'Honneur, Officier de l'ordre national du Mérite Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Gyrfa cyn y Tour golygu

Astudiodd Prudhomme yn ysgol gohebaeth ESJ yn Lille rhwng 1983 a 1985. Ymunodd â RTL (Radio-Télévision Luxembourg) ym 1985 gyda annogaeth ei diwtor, Michel Cellier, a oedd yn ohebydd ar gyfer RTL yn ardal y Nord. Ymunodd â RTL ar dreial ond ni gadwyd ef yno wedi i'r treial ddod i ben. Symudodd Prudhomme i RFO ac ar 3 Awst 1987 i'r sianel teledu, La Cinq, fel newyddiadurwr odan Pierre Corgioni. Adroddodd hanes y chwaraeon a ddiddorodd ef fwyaf, sef seiclo, rygbi, athletau a sgio.