Chwarel Dinorwig

hen chwarel lechi enfawr a Safle Treftadaeth y Byd, Gwynedd

Roedd Chwarel Dinorwig yn un o’r ddwy chwarel fwyaf yng Nghymru gyda Chwarel y Penrhyn. Ar un adeg y ddwy yma oedd y chwareli mwyaf yn y byd.

Chwarel Dinorwig
Mathchwarel, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1787 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.123068°N 4.095983°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCN337 Edit this on Wikidata

Mae’r chwarel ar lechweddau Elidir Fawr, yr ochr arall i Lyn Padarn i bentref Llanberis. Fel gyda’r ardaloedd llechi eraill, gweithid y llechi gan bartneriaethau bychain o chwarelwyr yn y 18g. Yn 1787 ffurfiwyd un bartneriaeth fawr i weithio’r chwarel, ac yn 1809 cymerodd y meistr tir, Thomas Assheton Smith o’r Faenol, reolaeth y chwarel i’w ddwylo ei hun.

Yn 1824 agorwyd Rheilffordd Padarn fel tramffordd, ac yn 1843 trowyd hi yn reilffordd. Roedd yn cludo llechi o’r Gilfach Ddu ger Llanberis i’r Felineli, lle adeiladwyd porthladd dan yr enw ‘’Port Dinorwic’’ i allforio’r llechi. Rheilffordd Padarn oedd y gyntaf o reilffyrdd y chwareli i ddefnyddio trenau ager, yn 1843.

Amcangyfrifodd y Mining Journal yn 1859 fod Chwarel Dinorwig yn gwneud elw o £70,000 y flwyddyn. Erbyn diwedd y 1860au roedd yn cynhyrchu 80,000 tunnell o lechi y flwyddyn.

Bu anghydfod diwydiannol yn 1874, yn dilyn ffurfio Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. Cafodd tua 2,200 o chwarelwyr eu cloi allan ym mis Mehefin, ond ar ôl pum wythnos cytunodd y rheolwyr i dderbyn bodolaeth yr undeb. Ym mis Hydref 1885 bu anghydfod diwydiannol eto yn y chwarel oherwydd fod gwyliau’r chwarelwyr yn cael eu lleihau, ac o ganlyniad clowyd y gweithwyr allan. Fel y chwareli eraill, effeithiwyd ar Dinorwig gan y ddau Ryfel Byd a’r Dirwasgiad Mawr, ac yn 1969 caeodd y chwarel, gyda dros 300 o chwarelwyr yn colli eu swyddi.

Erbyn hyn mae rhan o Chwarel Dinorwig o fewn Parc Gwledig Padarn, tra mae’r rhan arall yn cael ei ddefnyddio ar gyfer Gorsaf Bwer Dinorwig sydd o dan yr hen chwarel. Trowyd hen weithfeydd y chwarel yn Amgueddfa Llechi Cymru, gyda arddangosfeydd yn cynnwys hen dai chwarelwyr o Danygrisiau ger Blaenau Ffestiniog.

Llyfryddiaeth golygu

  • Reg Chambers Jones, Dinorwic: the Llanberis Slate Quarry, 1780-1969 (Bridge Books, 2006)