Ci Gwartheg Awstralaidd

Ci sodli sy'n tarddu o Awstralia yw'r Ci Gwartheg Awstralaidd. Cafodd ei fridio yn y 19eg ganrif i weithio ar ffermydd gwartheg yng Ngwyllt Awstralia. Daw ei nodwedd o frathu sodlau i yrru gwratheg o'r dingo sydd yn rhan o linach y Ci Gwartheg Awstralaidd.[1]

Ci Gwartheg Awstralaidd
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
Mathci Edit this on Wikidata
GwladAwstralia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ci Gwartheg Awstralaidd

Mae ganddo daldra o 43 i 51 cm (17 i 20 modfedd) ac yn pwyso 16 i 20 kg (35 i 45 o bwysau). Mae ganddo gôt ddwbl fer sydd naill ai'n goch, gyda smotiau coch tywyll ar y pen, neu'n las, gyda smotiau neu frychni. Yn aml bydd smotiau glas, melyn, neu ddu ar y pen, a smotiau melyn ar goesau, brest, gwddf a wyneb cŵn glas. Genir Ci Gwartheg Awstralaidd yn wyn gyda smotiau ar ei wyneb, ac mae lliw ei gôt yn datblygu wrth iddo dyfu.[1]

Er ei fod yn gi gwaith ac yn gi gwarchod caled, mae Ci Gwartheg Awstralia hefyd yn dda gyda phlant ac yn anifail anwes addas. Mae'n rhagori mewn chwaraeon cŵn megis cystadlaethau ystwytho.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Australian cattle dog. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Medi 2014.